Geraint Talfan Davies
Mae un o sylfaenwyr y Sefydliad Materion Cymreig a chadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru wedi dweud bod angen cynllun wrth gefn “ar frys” i Gymru petai pobl yr Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth.
Roedd Geraint Talfan Davies yn gwneud ei sylwadau ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig heddiw wrth i arolygon barn awgrymu y bydd y refferendwm yn ras i’r diwedd.
Meddai Geraint Talfan Davies ei bod hi’n hawdd beio tactegau Llywodraeth y DU yn ystod yr ymgyrchu oherwydd ei bod yn ras mor agos, ond bod y gwir yn ddyfnach na hynny.
Mae’n awgrymu y byddai annibynniaeth i’r Alban yn fwy trawmatig i Loegr – “yn enwedig i elites gwleidyddol, ariannol a diwylliannol y de ddwyrain” na cholled yr ymerodraeth Brydeinig.
Er, meddai, heb yr Alban, mae posibilrwydd y bydd Cymru’n elwa o fargen ariannol well drwy weld newidiadau yn y fformiwla Barnett. Ond mae canlyniadau eraill yn sgil annibynniaeth yn llai clir, meddai.
‘Angen cynllun ar frys’
Meddai Geraint Talfan Davies: “Efallai y bydd canlyniadau eraill yn llymach ac yn anodd eu rhagweld.
“Er enghraifft, er na fyddai’r Alban wedyn yn rhan o dîm mewnfuddsoddi UKTI, byddai’n cael ymladd ei gornel ei hun – fel Iwerddon – gyda gostyngiad sydyn yn y dreth gorfforaethol.”
Dywedodd beth fyddai’n effeithio Cymru fwyaf yw’r realiti nad oes ganddi bwysau neu ddylanwad ei hun yn Llundain, yn wahanol i’r Alban ac Iwerddon.
Meddai: “Does gan y bygythiad o annibyniaeth i Gymru ddim hygrededd ar hyn o bryd. Does gennym ni ddim olew. Does gennym ni – fel Gogledd Iwerddon – ddim ffin â gwladwriaeth arall sydd â hawl arnom ni.
“Yr unig ddylanwad neu bŵer fydden ni’n gallu ei adeiladu arni yw un ar sylfaen o berfformiad uwch, sydd, yn anffodus, yn dal i ymddangos yn bell i ffwrdd.
“Mae gennym ni syniad teg o’r hyn y byddai Cymru eisiau o setliad newydd y DU petai’r Alban yn pleidleisio ‘Na’. Ond does dim arwydd eto fod gennym ni gynllun wrth gefn yng Nghymru petai pleidlais ‘Ie’. Mae angen un ar frys.”