Faint o ddynion busnes sy’n ddigon dewr i ofyn i’w cwsmeriaid dynnu eu dillad a chael tynnu eu lluniau yn noeth?
Dyna mae ffotograffydd o Fôn wedi bod yn ei wneud ar gyfer ei arddangosfa ddiweddara’ o luniau tirlun.
Yn 2011 fe gafodd Glyn Davies sylw eang wedi i David Cameron y Prif Weinidog roi dau o’i lyfrau lluniau yn anrheg priodas i Wil a’i wraig.
Ar gyfer ei brosiect diweddara’ mae’r Cymro 49 oed sy’n hoffi noethlymuna wedi bod yn gofyn i gwsmeriaid yn ei galeri ym Mhorth Aethwy a fydden nhw’n hoffi ymddangos yn rhai o’i luniau tirlun.
Ond sut maen nhw’n ymateb pan fydd y ffotograffydd yn crybwyll y syniad o grafangu i graig wrth bwll y môr, a hynny’n hollol noeth?
“Ar y cychwyn roedd rhai wedi synnu,” cofia Glyn Davies, “oherwydd cyn gynted ag y mae ffotograffydd yn sôn am dynnu dillad, mae’r ymateb arferol i’w gael, a’r disgwyl y bydd yn seedy neu bornograffig. Ond pan wnes i ddangos y lluniau yr oeddwn eisoes wedi eu tynnu, bron yn ddieithriad roedden nhw’n awyddus i roi tro arni, yn gweld bod y gwaith i’w wneud efo tirlun a chelf, ond hollol groes i’r hyn yr oedden nhw wedi ei feddwl yn y lle cyntaf.”
Mwy am y cysyniad tu ôl i’r lluniau a gwerthu gwaith artistig i David Cameron yn rhifyn yr wythnos yma o gylchgrawn Golwg.
Bydd arddangosfa Glyn Davies yn Oriel Môn tan fis Medi 21.