Nicola Sturgeon
Mae’n ymddangos bod y frwydr annibyniaeth yn yr Alban yn troi o amgylch cefnogwyr y Blaid Lafur, wrth i’w harweinwyr apelio arnyn nhw i bleidleisio ‘Na’.

Fe fydd arweinydd Llafur yr Alban, Johann Lamont, yn mynd i ymgyrchu yn etholaeth diprwy arweinydd plaid genedlaetholgar yr SNP heddiw wrth i’r ymgyrch Ie hawlio eu bod yn denu pleidleiswyr Llafur.

Ac mae’r undeb mawr cynta’ wedi datgan o  blaid annibyniaeth – fe ddatgelodd undeb gweithwyr rheilffordd yr RMT fod ei aelodau wedi pleidleisio o fwyafrif bychan o blaid ‘Ie’.

Ddoe roedd arweinydd Llafur Prydain, Ed Miliband, wedi apelio ar i gefnogwyr Llafur bleidleisio yn erbyn annibyniaeth gan ddadlau mai dim ond llywodraeth Lafur yn Llundain a allai gynnig cymdeithas deg.

Pleidleiswyr Llafur yn allweddol?

Yn ôl yr ymgyrch Ie, mae penderfyniad yr RMT yn bychanu Llafur – er fod yr undeb wedi ei ddiarddel gan y blaid, mae’n parhau i’w chefnogi mewn rhai etholaethau.

Wrth i’r bwlch gau rhwng y ddwy ochr ac yn ystod pythefnos ola’r ymgyrch, y gred yw y gallai pleidleiswyr Llafur fod yn allweddol.

Ond mae Nicola Sturgeon, dirprwy arweinydd yr SNP, wedi mynnu nad cwestiwn am bleidiau yw hwn, ond cwestiwn am ddyfodol yr Alban.