Jacob Ellis (o'i dudalen Linkedin)
Fe fydd swyddogion iaith myfyrwyr Cymru yn dweud wrth brifysgolion a’u hundebau eu hunain nad ydyn nhw’n fodlon derbyn esgusodion ariannol am beidio â chynnig  addysg a gwasanaethau Cymraeg.

Mae’r swyddogion yn cyfarfod am y tro cynta’ heddiw mewn cyngor newydd sydd wedi ei drefnu i drafod materion iaith yn y sectorau addysg uwch a phellach.

“Mae gan bob myfyriwr yr hawl i dderbyn addysg yn eu mamiaith,” meddai Jacob Ellis, sy’n gyfrifol am y Gymraeg yn Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ac yn Llywydd Urdd y Myfyrwyr yn Aberystwyth.

“Ac fe fyddwn yn gweithio gyda’r holl undebau myfyrwyr i wneud yn siŵr eu bod hefyd yn parchu’r dyhead sydd gan fyfyrwyr i fyw yn y Gymraeg.

‘Neges glir’

Er fod y cyngor wedi dechrau ar ei waith y llynedd, heddiw yn Aberystwyth y bydd y cyfarfod cynta’.

“Rydym yn danfon neges glir i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol holl brifysgolion a cholegau yma yng Nghymru ein bod ni’n barod i’w cynrychioli ar y lefel genedlaethol yma,” meddai Jacob Ellis.

“D’yn ni ddim am dderbyn esgusodion ariannol bellach gan brifysgolion ac undebau myfyrwyr.

“Fe fydd cynrychiolwyr o holl undebau myfyrwyr y sector addysg uwch yng Nghymru yn rhan o’r cyfarfod ffurfiol yn y lansiad ac rydym yn barod i drafod, i herio, i rannu problemau ac arferion da.”

Roedd arolwg wedi dangos nad oedd undebau myfyrwyr yn gwneud digon, meddai, ac roedd Siarter Iaith wedi ei chreu o ganlyniad.