Sesnin Captain Cat
Gyda llygaid y byd ar Gymru’r wythnos hon wrth i’r wlad groesawu arweinwyr byd i uwch-gynhadledd NATO, mae’r sylw hefyd ar fwyd a diod Cymru.
Tra bydd cynnyrch Cymreig yn serennu ar y fwydlen yn yr uwch-gynhadledd bydd nifer o gynhyrchwyr bwyd adnabyddus Cymru yn symud wedyn i Lundain i arddangos eu cynnyrch yn y Speciality and Fine Food Fair – digwyddiad masnach fwyaf y sector yng ngwledydd Prydain.
Bydd 25 o gynhyrchwyr Cymreig yn arddangos eu danteithion ar stondin Llywodraeth Cymru yn y ffair, sy’n cael ei chynnal rhwng 7-9 Medi.
Un o’r cwmnïau fydd yn arddangos eu cynnyrch yn y digwyddiad fydd y Pembrokeshire Beach Food Company.
“Mae arddangos mewn digwyddiadau fel y ffair Speciality yn rhoi’r cyfle i ni siarad yn uniongyrchol â phrynwyr ac i ehangu ein marchnad,” meddai un o sylfaenwyr y cwmni Jonathan Williams.
“Eleni ry’n ni wedi ein hysbrydoli gan ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas ac ry’n ni wedi datblygu sesnin arbennig Capten Cat, cymysgfa newydd o sbeisys gaiff ei lansio yn Llundain.
“Fel gyda gweddill ein cynnyrch, maent wrth gwrs wedi eu creu gan ein tîm o fôr-forynion Cymreig.”
Safon Uchaf
Ac fe fydd y cwmni o Sir Ddinbych, Patchwork Traditional Food Company, yn cystadlu am brif wobr y ffair:
“O 10,000 o gynhyrchion a gyflwynwyd ar gyfer y Great Taste Awards, dim ond 153 gafodd dair seren, felly mae’r ffaith fod ganddon ni gyfle i ennill y brif wobr yn wych inni fel cwmni,” meddai Rufus Carter.
“Rydyn ni’n gwybod fod bwyd a diod o Gymru yn gynnyrch o’r safon uchaf ac mae’n rhaid inni ofalu fod pawb arall yn gwybod hynny hefyd!”