Ed Miliband
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband wedi annog cefnogwyr y blaid  i bleidleisio yn erbyn annibyniaeth i’r Alban yn y refferendwm ar Fedi 18.

Dywedodd y dylai cefnogwyr y blaid gadw at eu traddodiadau fel y gallai’r Blaid Lafur fynd ati i adeiladu “Alban decach o fewn y Deyrnas Unedig”.

Gwnaeth Miliband ei apêl yn ystod ymweliad â Swydd Lanark, man geni sylfaenydd y Blaid Lafur, Keir Hardie.

Mae polau piniwn ar hyn o bryd yn awgrymu bod 53% o Albanwyr yn barod i bleidleisio ‘Na’ ac mae aelodau’r Blaid Lafur yn cael eu hystyried yn ganolog i’r canlyniad.

Dadleuodd Miliband y byddai llywodraeth yr SNP mewn Alban annibynnol yn barhad o bolisïau a gweinyddiaeth Dorïaidd.

Dywedodd: “Edrychwch ar eu safbwynt am dreth gorfforaethol, neu ynni, neu ar dreth, neu drethi uwch i’r bobol gyfoethocaf.

“Maen nhw’n barhad o’r hyn mae’r Torïaid wedi bod yn eu cyflwyno, ac nid newid.

“Os ydych chi am gael gwir newid, os ydych chi am gael newid o’r Llywodraeth Dorïaidd hon, yr ateb cywir yw pleidleisio Na ac ethol llywodraeth Lafur, a dyna dw i’n credu sy’n mynd i ddigwydd.”

Addawodd Miliband y byddai’r Alban yn derbyn rhagor o bwerau o dan Lywodraeth Lafur pe baen nhw’n aros yn rhan o’r DU.

Ymatebodd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond trwy ddweud nad yw Miliband yn deall gwir bwysigrwydd y refferendwm.

“Dyma gyfle fydd gan bobol yr Alban ym mhob etholiad yn y dyfodol mewn gwlad annibynnol i ddewis y llywodraeth maen nhw am ei chael.”

Cyhuddodd Miliband o chwarae gwleidyddiaeth bleidiol.