Protestwyr Nato yn cael eu cadw draw o westy'r Celtic Manor gan yr heddlu pnawn ma
Roedd cannoedd o bobol wedi cymryd rhan mewn gorymdaith yn erbyn Uwch Gynhadledd Nato yng Nghasnewydd amser cinio.
Gorymdeithiodd oddeutu 500 o bobol i’r Senotaff yng nghanol y ddinas i gyfeiriad gwesty’r Celtic Manor, lle mae arweinwyr y byd yn cyfarfod.
Roedden nhw’n gyfuniad o’r Blaid Sosialaidd, Plaid y Gweithwyr Sosialaidd, Clymblaid Stopiwch y Rhyfel a’r Bloc Coch.
Roedd nifer yn cludo baneri gyda negeseuon arnyn nhw i’r arweinwyr.
Roedd tyrfaoedd sylweddol wedi ymgynnull ar hyd llwybr yr orymdaith wrth i’r protestwyr basio.
Cafodd un dyn oedrannus oedd yn gwylio’r orymdaith ei atal gan yr heddlu wrth iddo weiddi: “Fe wnes i ymladd dros y wlad hon, ewch adref”.
‘Protest heddychlon a chyfeillgar’
Dywedodd un o’r protestwyr wrth golwg360 y prynhawn ’ma fod y brotest yn un “heddychlon a chyfeillgar”.
Dywedodd Jane Harries o Gymdeithas y Cymod: “Aeth y brotest mor dda ag y gellid fod wedi’i ddisgwyl, dw i’n meddwl.
“Roedd pobol yn gwaeddu ond roedd yr awyrgylch yn heddychlon a chyfeillgar.”
Dywedodd fod y protestwyr wedi dod o bob cwr o Ewrop i ymuno yn y brotest.
Bydd protest arall yn cael ei chynnal heno yng nghanol Caerdydd tra bydd yr arweinwyr yn ciniawa.
Cadarnhaodd Jane Harries fod cynrychiolwyr o’r Swyddfa Dramor wedi derbyn cerdiau gan y protestwyr oedd yn cynnwys negeseuon i’r arweinwyr.
“Gwnaeth pobol fynegi barn a dyna oedd eu bwriad”, meddai.