Robin Owain, rheolwr Wicipedia Cymraeg
Mae gwefan Wicipedia Cymraeg wedi cyrraedd carreg filltir y bore ma trwy gyhoeddi ei 60,000fed erthygl a dod y wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd mewn hanes.
Erthygl am stori Elizabeth West, ‘Garden in the Hills’, a gyhoeddwyd yng Nghymru gan John Jones Publishing yn 2010 oedd erthygl rhif 60,000.
Yn ôl Wicipedia Cymraeg, mae dros 2.53 miliwn o erthyglau’r gwyddionadur wedi cael eu darllen y mis diwethaf yn unig a chredir fod 85% o’r darllenwyr rhwng 16 – 23 oed.
Disgrifiodd Robin Owain, Rheolwr Wici Cymru, y wefan fel cyfleuster “rhydd, yn hylaw a hwyl”:
“Mae’r Wicipedia Cymraeg yn elwa’n fawr o bŵer y teulu wici, gan fod y dechnoleg ddiweddaraf yng nghledr ei llaw, a’r Gymraeg yno’n dawnsio’n braf,” ychwanegodd.
“Mae mwy a mwy o bobol ifanc yn ei defnyddio ar gyfer eu gwaith ysgol a choleg – a hynny drwy’r ffôn llaw a thabledi clyfar. Ac oherwydd y teulu Wicimedia, mae’r Gymraeg yno hefyd ar brif feddalwedd megis gor-realaeth (AR), yn gynhenid felly, heb orfod lawrlwytho unrhyw ap.
“A’r hyn sy’n wych ydy y gall unrhyw gorff, grŵp neu fusnes ddefnyddio’r cyfan sydd ar y Wicipedia Cymraeg heb rwystrau o ran trwyddedu a hawlfraint.
“Mae’r cwbl am ddim, yn rhydd, yn hylaw ac yn hwyl.”