Portmeirion
Mae disgwyl i dros 10,000 o bobol o bob cwr o Brydain deithio i Ŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion, Penrhyndeudraeth y penwythnos yma, ac eleni maen nhw’n cael y cyfle i ddysgu Cymraeg.

Am y tro cyntaf, mae’r ŵyl yn cynnig gwersi Cymraeg gydag Ann Bierd, tiwtor gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion y Gogledd, sy’n cael eu trefnu drwy gaffi Tim Burgess, Tim Peaks Cafe.

Bydd y dosbarthiadau yn cael eu cynnal bob bore, o fory tan ddydd Llun.

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Ifor Gruffydd Rheolwr y Ganolfan, ym Mhrifysgol Bangor:
“Mae’n wych gweld y bydd ymwelwyr i ŵyl lewyrchus fel hon yn cael cyfle i gael blas o’r iaith Gymraeg tra’n ymweld â’r ardal.

“Mae’n gyfle unigryw a dwi’n gobeithio bydd pobl yn mwynhau.”

Mae Gŵyl Rhif 6 yn agor ei drysau ddydd Gwener gydag artistiaid Cymraeg fel Geraint Jarman, Candelas, Gai Toms a Kizzy Crawford yn perfformio.