Mae teulu dyn 42 oed sydd wedi marw o anafiadau difrifol i’w ben yn dilyn digwyddiad yn Swydd Lincoln wedi talu teyrnged iddo.

Symudodd Warren Free i Loegr o Gymru gyda’i deulu wyth mlynedd yn ôl.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty ar Awst 28, ond fe fu farw’n ddiweddarach.

Mae pum bachgen a dwy ferch a gafodd eu harestio fel rhan o’r ymchwiliad wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu fod Warren Free yn ddyn oedd yn gwenu o hyd a bod ganddo synnwyr digrifwch gwych.

Dywedodd ei rieni, sydd bellach yn byw ym Mhortiwgal: “Roedd e o hyd yn rhoi pobol eraill o flaen ei hun.

“Roedd ganddo fe galon fawr a phe bai e’n gweld rhywun mewn angen, fe fyddai’n gwneud popeth fedrai drostyn nhw.”

Roedd ganddo fe fab 13 oed, Adam a merch 20 oed, Zoe sydd yn byw yng Nghymru o hyd.

Dywedodd Zoe mewn datganiad: “Roedd e’n dad gwych oedd ar gael i ni o hyd pan fyddai angen.

“Rydyn ni’n ei garu ac fe fyddwn yn gweld ei eisiau’n fawr.”