Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg
Cyhoeddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones heddiw fod dau aelod newydd wedi’u penodi i Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg.

Bydd yr aelodau newydd, Carl Cooper a Bethan Jones Parry, yn dechrau ar eu gwaith fel aelodau heddiw a bydd eu penodiadau yn para tair blynedd.

Byddan nhw’n ymuno â’r Dr Ian Rees, Gareth Jones a’r Athro Gwynedd Parry ar y panel.

Rôl y panel cynghori yw cefnogi gwaith Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wrth hybu’r iaith. Fe fyddan nhw’n cynghori’r Comisiynydd wrth ei gwaith ac yn cynnig cyfle iddi drafod materion pwysig gan roi cyngor.

Mae Carl Cooper yn Brif Weithredwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, ac mae o wedi dysgu Cymraeg. Mae hefyd wedi gwasanaethu ar Fwrdd Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, Cyngor Coleg y Drindod, Cyngor Cynulleidfa Cymru y BBC a Phwyllgor Elusen Plant mewn Angen Cymru.

Mae Bethan Jones Parry yn ymgynghorydd cyfathrebu llawrydd, ac yn ddarlledwraig a newyddiadurwraig. Mae hi hefyd yn Gadeirydd Grŵp Asesu Effaith yr Wylfa Newydd ar yr Iaith Gymraeg ac yn aelod blaenllaw o’r grŵp pwyso Dyfodol i’r Iaith.

Dywedodd Prif Weinidog Cymry, Carwyn Jones: “Mae gan Gomisiynydd y Gymraeg rôl bwysig i’w chwarae i hybu hawliau unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd a dal y rheini sy’n gwrthwynebu hyn i gyfrif. Nid yw hon yn dasg hawdd a diben y Panel Cynghori yw cynnig cefnogaeth a chyngor gwerthfawr.

“Dw i wrth fy modd bod Carl Cooper a Bethan Jones Parry wedi cytuno i fod yn aelodau o’r Panel Cynghori. Dw i’n hyderus hefyd y bydd eu hamrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad yn helpu i gefnogi’r Comisiynydd wrth ei gwaith.”