Adeilad y llysoedd yng Nghaernarfon
Fe fydd dyn yn ymddangos yn y llys yng Nghaernarfon heddiw wrth i gyrch mawr yr heddlu barhau yn erbyn y fasnach gyffuriau yng Ngwynedd a Môn.
Mae 26 o bobol bellach wedi eu harestio yn rhan o Ymgyrch Sgorpion Heddlu Gogledd Cymru.
Fe gafodd dau ddyn o Gaernarfon eu harestio ddoe ar amheuaeth o gynllwyn i werthu cyffuriau dosbarth A a B ac mae un o’r ddau bellach wedi ei gyhuddo’n ffurfiol.
Yn y llys
Fe fydd Carl Andrew Lloyd Williams, 30 oed, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caernarfon yn hwyrach y bore yma.
Fe fydd yr heddlu’n gwneud cais am iddo gael ei gadw yn y ddalfa.
Mae’r dyn arall, sy’n 40 oed, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth er mwyn i’r heddlu gwblhau eu hymholiadau.
Y cyfanswm yn 26
“Mae’r arestio a’r gweithredu yn Ymgyrch Sgorpion yr wythnos yma’n dangos ein hymrwymiad llwyr i gael gwared ar y troseddu yma o’n cymunedau,” medai’r Ditectif Arolygydd Arwyn Jones, sy’n arwain yr ymchwiliad.
“Mae’r arestiadau pellach yma’n dod â’r cyfanswm i 26, gyda’r rhan fwya’ wedi eu cyhuddo a’u cadw yn y ddalfa a’u symud o’n strydoedd ni.”