Traeth Benllech, gerllaw Brynteg
Mae arolwg gan y Post Brenhinol yn rhoi Brynteg, ger Benllech ym Môn, ar y brig, fel yr ardal cod post (LL78) fwyaf dymunol i fyw ynddi yng Nghymru.
Llanilltud Fawr (CF61) sy’n dod yn ail a Llanidloes (SY18) sy’n drydydd.
Roedd yr arolwg yn seiliedig ar amrywiol ffactorau gan gynnwys cyfleoedd gwaith, iechyd, addysg, cyfraddau troseddu a pha mor fforddiadwy oedd tai.
Cafodd yr arolwg ei gomisiynu i nodi 40 mlynedd ers dyrannu codau post i bob cyfeiriad ym Mhrydain, datblygiad sydd wedi chwyldroi’r gwaith o ddosbarthu, yn ôl y Post Brenhinol.
Pentrefi yn Wiltshire, Hampshire a Cumbria a ddaeth i’r brig yn Lloegr, a De Glasgow, Erskine a Largs oedd y buddugwyr yn yr Alban.