Mae beiciwr modur wedi’i ladd yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A465 rhwng Gilwern a Llanfoist ym Mlaenau Gwent.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi hanner nos, ond roedd y dyn 53 oed o Nantyglo wedi marw yn y fan a’r lle.
Mae’r heddlu wedi arestio dyn 37 oed o ardal Brynmawr, ynghyd a dynes 34 oed o Gilwern ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.
Mae traffig yn cael ei ddargyfeirio yn yr ardal, ac fe all fod yna oedi mawr yno am rai oriau.