Y llawenhau! Ash Dykes ar ddiwedd ei daith (Llun: Ash Dykes)
Anturiaethwr ifanc o ogledd Cymru yw’r person cyflyma’ erioed i gerdded ar draws Mongolia ar ei ben ei hun – taith o 1,500 o filltiroedd yn un o ardaloedd mwya’ diffaith y byd.

Fe dreuliodd Ash Dykes o Fae Colwyn 78 o ddyddiau yn gwneud y daith, gan wynebu stormydd tywod a gwres mawr ar y ffordd.

Wrth gerdded ei ffordd i mewn i’r llyfrau hanes, fe ddringodd fynyddoedd Altai, fe groesodd anialwch Gobi, a thaclo Steppe Mongolia.

A hyn i gyd gan dynnu trelar yn cynnwys ei babell a’i offer a oedd yn pwyso 120kg.