Fe ddylai gwariant cyhoeddus yn yr Alban gael ei gwtogi os yw’r Albanwyr yn pleidleisio ‘na’, yn ôl bron i hanner etholwyr Cymru.
Dywedodd 48% o Gymry a 56% o Saeson hynny, yn ôl arolwg, os yw’r Alban yn gwrthod annibyniaeth.
Roedd gwariant cyhoeddus y pen yn yr Alban yn £10,327 yn 2012-13 o’i gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig o £8,940.
Cafodd yr arolwg ei wneud gan ymchwilwyr o Brifysgolion Caerdydd a Chaeredin gydag asiantaeth polau YouGov o flaen refferendwm yr Alban ar annibyniaeth ar 18 Fedi. Mae’r arolygon barn yn awgrymu mai pleidlais ‘na’ sy’n fwy tebygol ar hyn o bryd.
Pwy ddywedodd beth yn union?
O’r 1000 o bobol o Gymru a holwyd roedd 12% anghytuno y dylai gwariant cyhoeddus gael ei gwtogi yn yr Alban gyda 9% yn Lloegr o’r un farn.
Un o’r pynciau mwyaf dadleuol y refferendwm yw a fyddai hawl gan Alban annibynnol i rannu’r bunt.
O’r 3,000 o bobol a holwyd yn Lloegr, dim ond 23% oedd yn cytuno y dylai’r Alban gael yr hawl gyda 53% yn gwrthwynebu. Yng Nghymru roedd 36% o blaid y syniad gyda 44% yn wrthwynebus.
Barn ar Brydain
Roedd y rheiny yn Lloegr hefyd yn gwrthwynebu’r syniad y dylai gweddill y Deyrnas Unedig gefnogi Alban annibynnol o geisio ymuno a’r Undeb Ewropeaidd a NATO.
Dim ond 26% oedd o blaid hynny gyda 36% yn credu na ddylai Prydain gefnogi’r Alban i wneud hynny.
Yng Nghymru roedd agwedd fwy cydweithredol gyda 34% yn cytuno y dylai’r Deyrnas Unedig gefnogi aelodaeth yr Alban o’r cyrff hynny a 32% yn anghytuno.
Byddai mwyafrif y bobol o’r ddwy wlad o blaid gweld pleidlais ‘na’ gyda 61% o Gymru a 59% yn Lloegr yn erbyn annibyniaeth. Roedd 19% ar y ddwy ochr yn gefnogol i Alban annibynnol. Ond daeth yr arolwg i’r casgliad bod barn wahanol o ran beth ddylai ddigwydd ar ôl y refferendwm.
Diddorol
Dywedodd yr Athro Roger Scully o Brifysgol Caerdydd: “Mae hi’n ddiddorol i weld tra nad oes bron unrhyw wahaniaeth ym marn pobol yn Lloegr a Chymru o ran beth y bydden nhw’n eisiau weld yn refferendwm yr Alban, mae yna wahaniaethau clir yn beth y mae pobol eisiau gweld ar ôl hynny.
“A bod yn gignoeth mae’r Saeson yn fwy tueddol i fod eisiau bod yn ddidrugaredd gyda’r Alban. Mae pobol yng Nghymru yn fwy gwyliadwrus am hyn ac yn fwy ffafriol i agwedd mwy cymodlon.”