Lluniau CCTV o Benarth ar ddiwrnod y lladrad
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am gymorth y cyhoedd wrth geisio dod o hyd i dri dyn y maen nhw’n awyddus i’w holi mewn cysylltiad a lladrad beic cwad.

Fe ddigwyddodd y lladrad tua 12.30yp ddydd Gwener, Awst 8, yn Railway Terrace, Penarth, pan sylweddolodd perchennog y cwad fod y peiriant ar goll.

Fe welwyd y beic wedyn yn cael ei reidio trwy Benarth, tra’r oedd car Peugeot lliw arian yn ei dowio.

Mae’n bosib i unrhyw un sydd a gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu Penarth ar y rhif 101, neu ffonio llinell Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.