Mae bachgen 17 mlwydd oed wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ ym Mlaenau Gwent heddiw.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tŷ ar Stryd Stewart, Cwm ychydig wedi tri o’r gloch yn y bore.

Cafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni ond bu farw’n ddiweddarach.

Meddai’r heddlu bod teulu’r bachgen yn derbyn cymorth ganddyn nhw ar hyn o bryd.

Mae’r heddlu a’r Gwasanaeth Tân ac Achub hefyd wedi dechrau ymchwiliad i’r hyn achosodd y tân.