Mae’r ymgyrch Na wedi ennill tir yn yr Alban cyn y refferendwm ar annibyniaeth tra bod cefnogaeth o blaid annibyniaeth wedi arafu, mae arolwg barn newydd yn awgrymu heddiw.
Yn ôl yr arolwg barn, mae rhyw 55% o bobl yn bwriadu pleidleisio Na yn y refferendwm – i fyny un pwynt ers arolwg tebyg ym mis Mehefin.
Dyw’r gefnogaeth o blaid heb symud ac yn parhau i fod ar 35%, meddai arolwg barn YouGov ar gyfer papur newydd The Sun.
Os yw’r pledleisiwyr sydd dal heb benderfynu’n cael eu heithrio, mae 61% yn dweud y byddan nhw’n pleidleisio yn erbyn annibyniaeth o’i gymharu â 39% o blaid.
Mae’r mwyafrif o bleidleiswyr (61%) hefyd yn credu y dylai’r Alban bleidleisio eto os bydd y canlyniad yn mynd yn erbyn annibyniaeth, ac mae 39% yn dweud na ddylid cael pleidlais arall eto.
Mae chwarter y pleidleiswyr yn credu y dylai’r bleidlais nesaf gael ei chynnal o fewn 10 mlynedd, er bod 17% yn credu y dylai’r Alban aros am o leiaf 20 i 30 mlynedd.
Annibyniaeth yw’r mater pwysicaf sy’n wynebu’r Alban, ar ôl yr economi, lles a mewnfudo, meddai’r arolwg o 1,142 o oedolion 16 oed a throsodd yn yr Alban.
Dywedodd cyfarwyddwr yr ymgyrch Na, Blair McDougall: “Mae methiant Alex Salmond i fod yn onest ag Albanwyr am ei gynllun B petai’r Alban ddim yn cael cadw’r bunt sterling wedi costio pleidleisiau iddo.
“Mae’n amlwg bod y momentwm yn yr ymgyrch hon gyda’r rhai ohonom sy’n credu bod dyfodol disglair ar gyfer yr Alban os yw’n aros yn rhan o’r DU.”
Dywedodd llefarydd ar ran yr ymgyrch Ie: “Dyw’r arolwg hwn heb newid ers yr arolwg YouGov diwethaf ym mis Mehefin. Mae dau arolwg barn arall yn ystod yr wythnos ddiwethaf wedi dangos bod cefnogaeth o blaid annibyniaeth mor uchel â 47%.”