Mae Gweinidog Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru, John Griffiths, heddiw wedi cyhoeddi pecyn o gyllid gwerth £2m i wella gwasanaethau ailgylchu ym Merthyr Tudful.
Mae’r arian yn rhan o Raglen Newid Gydweithredol, sy’n rhoi £8 miliwn dros ddwy flynedd i helpu awdurdodau lleol i wneud gwelliannau i’w gwasanaethau ailgylchu.
Bydd yr arian yn galluogi Cyngor Sir Merthyr Tudful i fuddsoddi mewn cerbydau newydd, depos a biniau ailgylchu.
Dywedodd arweinydd Cyngor Merthyr Tudful, Brendan Toomey bod y cyhoeddiad yn “newydd gwych” ac y byddai’n helpu’r cyngor i gyrraedd targedau ailgylchu sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd John Griffiths AC bod y cyngor yn “uchelgeisiol” o ran gwella’r gwasanaeth ailgylchu ac y byddant yn gweithio’n agos gyda thrigolion i gyflawni hyn.
Meddai John Grifffiths: “Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn golygu y bydd mwy o ddeunyddiau yn aros yng Nghymru i’w defnyddio gan gwmnïau o Gymru, gan helpu Cyngor Merthyr Tudful i osgoi trethi tirlenwi, cynyddu eu cyfraddau ailgylchu a chefnogi marchnadoedd ailgylchu yng Nghymru.”