Kirsty Williams
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhoeddi heddiw y bydden nhw’n ailwampio’r system gyllido i Gymru ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf.
Fel rhan o addewidion y blaid cyn yr etholiad nesaf, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud y byddai’n ariannu Cymru’n decach, allai olygu cannoedd o filiynau o bunnoedd o gyllid ychwanegol i Gymru.
Daw’r datganiad wedi i’r Democratiaid Rhyddfrydol gydnabod canfyddiadau Comisiwn Holtham nad yw’r fformiwla Barnett presennol – sy’n cael ei defnyddio i benderfynu faint o arian mae Llywodraeth Cymru yn ei gael yn flynyddol –yn rhoi digon o arian i Gymru.
Petai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill yr etholiad nesaf, bydden nhw’n ceisio sicrhau lefel teg o arian i Gymru. Bydd yr ymrwymiad maniffesto yma’n cael ei gyhoeddi mewn dogfen ym mis Medi.
Dywedodd Kirsty Williams AC, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru: “Dyw’r Democratiaid Rhyddfrydol nid yn unig yn cydnabod bod Cymru yn cael ei thangyllido, ond byddwn yn ymrwymo i roi mesurau ymarferol ar waith i fynd i’r afael â hyn.
“Y bwriad yw cael bargen decach i Gymru ac rydym yn credu mai dyma’r ffordd orau i hynny ddigwydd.
“Mae ein cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hamddifadu o’r arian y byddem yn ei dderbyn pe byddai system gyllido deg.”