Mae pris tir fferm yng Nghymru wedi cynyddu mwy nag unrhyw le arall ym Mhrydain, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

£8,625 yw’r pris am erw erbyn hyn, sy’ 7% yn fwy na’r cyfartaledd cenedlaethol a phedair gwaith yn uwch nag yn 1994 pan gychwynnodd y cofnodion.

Yn ôl arolwg gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (SBSS), mae cynnydd mewn prisiau oherwydd bod y galw am dir yn uwch na’r hyn o dir sydd ar gael.

Ac yn ôl Uwch Economegydd y SBSS mae disgwyl y bydd pris tir fferm yn parhau i gynyddu dros y 12 mis nesaf.

“Mae’r galw am dir yn parhau yn uchel o’r ochr fasnachol, yn enwedig gan ffermwyr sy’n awyddus i ehangu i dir cyfagos”, meddai Joshua Miller.