Bydd yr iaith Gymraeg i’w chlywed yn slot prime-time prif sianel Brydeinig y BBC heno am naw.

Mae Walter yn ddrama gomedi am dditectif lluddedig sy’n ceisio ymdopi gyda thrafferthion ariannol.

Caiff un o gymeriadau’r ddrama – ‘DC Anne Hopkins’ – ei chwarae gan Alexandra Roach, y Gymraes o Rydaman wnaeth actio’r Maggie Thatcher ifanc yn y ffilm The Iron Lady.

Nôl yn 2003 roedd hi’n actio cymeriad ‘Elin’ ar Pobol y Cwm.

Yn ôl canllaw teledu The Sunday Times mae’r iaith Gymraeg yn destun jôcs ar Walter.

Mamiaith

Yn ôl y BBC, penderfyniad yr actores Alexandra Roach oedd cael ei chymeriad ‘DC Anne Hopkins’ yn siarad Cymraeg ar y ffôn gyda’i mam. Mae’r sgwrs yn para ryw dri neu bedwar o funudau, a bydd isdeitlau Saesneg ar gyfer y di-Gymraeg.