Bydd Eisteddfodwyr yn cael cyfle am lun arbennig gyda chwpanau prif gystadlaethau pêl-droed Ewrop heddiw wrth i’r tlysau ymweld â’r maes.

Mae Cwpan Cynghrair y Pencampwyr, Cwpan Cynghrair Ewropa a’r Super Cup yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf gyda’i gilydd, ac wedi bod ar daith ledled y wlad yr wythnos hon.

Fe fydd cyfle i bobl ar y maes yn Llanelli gael llun gyda’r tlysau enwog yn ystod y dydd – ond yn anffodus i gefnogwyr y bêl gron, nid oes sôn y bydd sêr mawr y byd pêl-droed ar y maes.

Bale yng Nghaerdydd

Mae’r tlysau ar daith o gwmpas Cymru cyn ffeinal y Super Cup fydd yn cael ei gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth nesaf, 12 Awst.

Bydd Real Madrid yn herio Sevilla mewn gêm rhwng dau o gewri Sbaen, ar ôl iddyn nhw gipio’r ddau dlws Ewropeaidd ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Bydd cefnogwyr yn gobeithio gweld Gareth Bale yng nghrys gwyn Real Madrid am y tro cyntaf erioed yng Nghymru.

Y Cymro, wrth gwrs, a sgoriodd y gôl arweiniodd at fuddugoliaeth Real dros Atletico Madrid yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr fis Mai.