Gareth Bonello - The Gentle Good
Y Bardd Anfarwol gan The Gentle Good oedd enillydd teitl Albwn Cymraeg y Flwyddyn eleni – gwobr newydd a gafodd ei chyflwyno ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Fe gafodd ei ddewis gan banel o 11 o feirniaid ym mhabell Caffi Maes B ar y maes.

Y cerddor Gareth Bonello yw The Gentle Good ac fe fydd yn derbyn tlws wedi ei greu gan un o gyn brif enillwyr celf yr Eisteddfod, Ann Catrin Evans.

Roedd yr albwm wedi ei ysbrydoli gan hanes bardd o China.

Roedd yna ddeg o albymau ar y rhestr fer, gan gynnwys albwm cerdd dant gan y delynores Gwennan Gibbard.

“Mae’n anodd meddwl am unrhyw wobr arall lle y byddai cerddoriaeth ‘dub’ ar yr un rhestr fer ag albwm cerdd dant!” meddai un o drefnwyr y gystadleuaeth, Guto Brychan.