Neuadd Sir Gar - testun dathlu?
Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal parti ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw i ganmol awdurdod lleol.

Y bwriad yw tynnu sylw at gyhoeddi amserlen ar gyfer gweithredu strategaeth iaith newydd Cyngor Sir Gâr.

Ond mae’r ymgyrchwyr hefyd yn rhybuddio eu bod yn cadw llygad ar y cyngor i wneud yn siŵr eu bod yn cadw at eu haddewid a bod peryg i rai swyddogion geisio atal y datblygiad.

Enwogion yn cymryd rhan

Yn ystod y parti, fe fydd nifer o enwogion yn cymryd rhan mewn “Munud dros Sir Gâr”, pan fyddan nhw’n esbonio mewn un munud pam fod yr amserlen newydd yn ddatblygiad mor bwysig.

Ymhlith y rhai fydd yn siarad mae’r cynghorwyr Cefin Campbell a Callum Higgins, yr actorion Andrew Teilo a Gwyn Elfyn, y ddarlledwraig Iola Wyn a chyn-arweinydd UMCA, Mared Ifan.

Ond fe fydd y Gymdeithas hefyd yn datgelu posteri sy’n dangos eu bod yn cadw “llygad barcud” ar weithgarwch y Cyngor Sir yn dilyn y cyhoeddiad.

Cyfarfod i ddadansoddi

“Am unwaith mae gwir achos i ddathlu gan fod y Cyngor Sir yn rhoi arweiniad i Gymru gyfan o ran y strategaeth iaith newydd a’r amserlen i’w gweithredu,” meddai cadeirydd y Gymdeithas yn Nghaerfyrddin, Sioned Elin.

Ond fe fydd cyfarfod pellach yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd i ddadansoddi faint o gynnydd fydd wedi bod.

Fe fydd potel siampên yn cael ei chadw’n ôl o’r parti heddiw ar gyfer y dyddiad hwnnw – os bydd digon o ddatblygu wedi bod.