Dewi Wyn Williams gyda'i fedal
Enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gar eleni yw’r dramodydd profiadol a sgriptiwr amlwg, Dewi Wyn Williams.

Mae’r Fedal Ddrama yn cael ei chyflwyno am ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.

Rhoddir y Fedal Ddrama er cof am Urien Wiliam, ac mae’n rhoddedig gan ei wraig Eiryth a’r plant, Hywel, Sioned a Steffan.  Cyflwynir y wobr ariannol o £750 gan Gronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli.

Caiff yr enillydd gyfle i ddatblygu’r gwaith gyda Sherman Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru.

Y darn buddugol

Daeth y ddrama ‘La Primera Cena’ i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 13 o ymgeisiadau.

Wrth draddodi’r feirniadaeth, dywedodd Roger Williams: “Dramodydd hyderus sydd wrth waith fan hyn, yn adrodd stori dyn yn cyfarfod â’i dad am y tro cyntaf ers deng mlynedd ar hugain.

“Mae’n strwythuro’r ddeialog gyda chrefft a dychymyg ac yn llwyddo i fachu’r gynulleidfa.”

Etifeddiaeth a’r berthynas rhwng natur a magwraeth sydd ar waith yn y ddrama fuddugol.

Perthynas tad a mab sydd dan sylw pan fo’r ddau yn cwrdd am y tro cyntaf ers deng mlynedd ar hugain, y tad wedi’i erlyn wedi damwain car a laddodd y fam.

Mae’r mab, oedd yn blentyn adeg y ddamwain, yn ceisio darganfod sut a pham ddigwyddodd y ddamwain.

Drama sy’n seiliedig ar ddigwyddiad go iawn sydd yma, pan gafodd gŵr ei gyhuddo o geisio llofruddio’i wraig a’i blentyn trwy yrru ei gar i afon. Fe’i carcharwyd cyn ei ryddhau’n ddiweddarach oherwydd ei amddiffyniad oedd mai’r wraig afaelodd yn y llyw gan achosi’r ddamwain.

Daw teitl y ddrama o lun enwog gan Dafni Elvira, artist o Buerto Rico, sy’n barodi o’r ‘Swper Olaf’ gan Leonardo da Vinci.

Yr enillydd

Cafodd Dewi Wyn Williams ei eni ym Mhenysarn, Sir Fón, a’i fagu ar fferm Glanrafon ym mhlwyf Llaneilian, ac mae’nfab i’r diweddar actor Glyn Williams (Glyn Pensarn).

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Penysarn ac Ysgol Uwchradd Syr Thomas Jones, cyn symud ymlaen i raddio o Goleg y Brifysgol ym Mangor mewn Cymraeg a Drama.

Daeth yn is-reolwr llawr gyda’r BBC yn 1980 cyn cael ei ddyrchafu i’r Adran Sgriptiau o dan arweiniad Gwenlyn Parry, lle daeth yn un o’r “mwyar duon” – pob un yn ‘hand-picked’!

Fe weithiodd yn bennaf ar ‘Pobol y Cwm’ yn y cyfnod pan gynyddodd nifer y penodau gafodd eu hysgrifennu bob wythnos o 32 i 250.

Daeth yn Bennaeth yr Adran Sgriptiau cyn gadael am S4C yn 1996 lle daeth yn Olygydd ac Ymgynghorydd Sgriptiau.

Mae e bellach yn awdur llawn amser.

Mae Dewi wedi ysgrifennu nifer fawr o benodau o ‘Pobol Y Cwm’ yn ogystal â dramâu megis ‘Marathon’- y ddrama sengl gyntaf ar S4C- a’r ffilm ‘Lois’. Mae ei waith llwyfan yn cynnwys, ‘Rhyw Ddyn A Rhyw Ddynes’, drama fuddugol Medal Ddrama Yr Urdd yn 1981; y ddrama hir ‘Leni’, a ‘Difa’, drama a oedd yn ail yn y gystadleuaeth hon llynedd, sy’n cael ei chynhyrchu gan Gwmni Bara Caws flwyddyn nesaf.

Mae’n aelod o sawl rheithgor Drama rhyngwladol. Eleni bu ar reithgor yr Emmys yn Efrog Newydd (am y seithfed tro) ac yn gadeirydd rheithgor Gwyl Deledu Banff yng Nghanada. Bu hefyd ar reithgorau Rose d’ Or,Swisdir, Prix Europa yn Berlin a’r Golden Chest ym Mwlgaria.

Roedd hefyd yn diwtor Sgriptio rhan amser yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd.