Yr Earl of Pembroke
Mae Golwg360 wedi cael ateb i ddirgelwch sydd wedi bod yn peri penbleth i ddarllenwyr y South Wales Evening Post ers rhai diwrnodau.

Yn ôl papur lleol Abertawe ddechrau’r wythnos, roedd llong fawr hanesyddol wedi cael ei gweld yn hwylio ym Mae Langland, ac roedd llun ohoni wedi cael ei hanfon gan un o ddarllenwyr y papur.

Yr ‘Earl of Pembroke’ yw’r llong dan sylw, yn ôl arbenigwr lleol ar longau, ac mae’n ail-gread o long ‘Endeavour’ gafodd ei hwylio gan Gapten Cook ar ei daith enwog i Awstralia a Seland newydd rhwng 1769-1771.

Cafodd y replica ei hadeiladu yn Sweden ddiwedd y 1940au a’i hailwampio ganol yr wythdegau wedi iddi gael ei phrynu a’i chludo i Loegr.

Bellach mae hi’n cael ei defnyddio i gludo plant ar anturiaethau ar y môr, wedi iddi gael ei defnyddio mewn amryw ffilmiau fel ‘Hornblower’ (oedd yn serennu Ioan Gruffudd) a ‘Treasure Island’.

Mae lle i gredu y bydd y llong yn cael ei defnyddio ar gyfer ffilm Walt Disney, ‘Alice in Wonderland: Through the Looking Glass’, fydd yn cael ei ffilmio yn 2016.

Seren y ffilm fydd un o actorion mwyaf Hollywood, Johnny Depp, ac mi fydd hi hefyd yn serennu Helena Bonham-Carter a’r actorion o Gymru, Michael Sheen a Rhys Ifans.

Erbyn hyn, mae’r llong wedi cyrraedd ochrau Caerloyw wedi iddi adael glannau Cymru’n gynharach y bore ma.