Sioned Eleri Roberts
Cafodd darn buddugol Tlws y Cerddor eleni ei berfformio am y tro cyntaf ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli heddiw, gyda’r gyfansoddwraig yn ei ddisgrifio fel ‘treat go iawn’.
Fe gyhoeddwyd neithiwr mai Sioned Eleri Roberts o Fangor oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth gyfansoddi, gyda’i darn dan y teitl ‘Chwalfa’ ar gyfer ensemble llinynnol.
Yn ogystal â chynnig cyfle i’r cyhoedd glywed y darn am y tro cyntaf fe gynhaliodd y gyfansoddwraig sesiwn holi ag ateb.
Ac fe gyfaddefodd wrth golwg360 mai braf oedd manteisio ar gyfle prin i glywed ei chyfansoddiadau’n cael eu chwarae.
“Dwi’m yn aml yn cael clywed cyfansoddiadau fy hun,” meddai Sioned Eleri Roberts. “Mae’n treat go iawn clywed y cerddorion yn chwarae’r gwaith.”
Gyda’i rhythmau rhanedig, curiad anghyson, ac offerynnau’n torri ar draws ei gilydd mae’r darn yn sicr yn adlewyrchiad o’r teitl a roddwyd iddi.
Roedd cyfansoddi’r darn – un o dri a gyflwynodd Sioned Roberts i’r gystadleuaeth – hefyd yn sialens ychwanegol gan mai clarinét, nid offeryn llinynnol, y mae hi’n ei chwarae.
“Dwi wedi chwarae lot efo llinynnau, ond pan mae’n dod at sgwennu llinynnau, yndi mae’n her.”
Blas o gyfansoddiad Sioned Roberts, a’i sgwrs hi â golwg360: