Bu sgwrs rhwng rhai o swyddogion mwyaf dylanwadol yn y maes digidol Cymraeg ym mhabell Cymdeithasau 1 ar faes y Brifwyl heddiw.
Bu Rhodri Ap Dyfrig, Ffrwti a Hacio’r Iaith, Huw Marshall, Pennaeth digidol S4C, a Gareth Morlais, Pennaeth yr Uned Iaith Gymraeg, Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan, gan drafod datblygiadau digidol ynghlwm a’r sefydliadau.
Bu’r drafodaeth hefyd yn seiliedig ar addasiad ieithoedd lleiafrifol a’u defnydd drwy ddatblygiadau technolegol.
Dywedodd Gareth Morlais ar ôl y drafodaeth fod Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau i ddatblygu defnydd, systemau gweithredu ac apps, gan ddatgelu ei obeithion y bydd nifer apps yn y Gymraeg yn dyblu dros y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Gareth Morlais: “Wrth i’r byd symud ymlaen mae mwy a mwy yn defnyddio dyfeisiadau a thabledi digidol, ac os yw’r adnoddau Cymraeg ddim ar gael iddyn nhw, mae pobl yn mynd i defaultio nol i’r Saesneg, neu i iaith gryfa’r ardal.
“Dyma pam mae angen buddsoddi mewn ymchwil i gael y seiliau technolegol Cymraeg mewn lle.
‘Dan ni’n siarad hefo cwmnïau rŵan i weld sut y gallwn ni gynyddu’r niferoedd o apps, ac yn bersonol dwi’n gobeithio dyblu’r niferoedd o apps sydd ar gael drwy’r iaith Gymraeg erbyn y flwyddyn nesaf – ond mae hyn i gyd yn dibynnu ar ddatblygu’r partneriaethau, ac os neith y trafodaethau lwyddo gallwn ni lwyddo i ddod yn agos at hynna.”