Y sgarff ar orymdaith ddoe
Mae grŵp o heddychwyr ar faes yr Eisteddfod yn gobeithio gweu sgarff hyd at filltir o hyd fel rhan o ymgyrch wrth-arfau niwclear.
Yn ystod yr wythnos hon ar stondin mudiadau heddwch ar y maes, sy’n cynnwys Cymdeithas y Cymod a CND Cymru, mae gwirfoddolwyr wedi bod yn cyfrannu’u hamser i weu rhan o’r sgarff hir.
Fe orymdeithiodd yr ymgyrchwyr drwy’r maes prynhawn ddoe gyda’r sgarff, ac maen nhw’n gobeithio y bydd eu cyfraniad nhw o Gymru yn ymuno â sgarff saith milltir o hyd sydd wedi’i wneud yn rhannau eraill Prydain.
Mae’r grwpiau’n gobeithio mynd â’r sgarff orffenedig i safleoedd niwclear Aldermaston a Burghfield yn Lloegr, ble mae arfau niwclear Prydain yn cael eu cynhyrchu.
A hithau’n 69 mlynedd ers ffrwydrad niwclear Nagasaki ar ddydd Sadwrn, mae’r ymgyrchwyr yn mynnu y byddan nhw’n parhau i brotestio yn erbyn arfau niwclear ym Mhrydain.
“Mae sgarff heddwch yn rhywbeth sy’n cynrychioli heddwch,” meddai Kay Holder sy’n rhan o’r ymgyrch. “Fe fydd y sgarff yn mynd o Aldermaston i Burghfield lle mae’r arfau niwclear yn cael eu cynhyrchu.
“Mae gwneud rhywbeth mor fach â chreu sgarff yn rhywbeth hollol ddiniwed, hollol ddi-drais, ac mae’n dweud llawer.”
Mae’n bosib y gallai arfau niwclear Prydain, sydd ar hyn o bryd yn Faslane yn yr Alban, gael eu symud i Aberdaugleddau petai’r Albanwyr yn pleidleisio dros annibyniaeth fis nesaf.
Ac yn ôl Kay Holder, mae gwrthwynebiad mawr i’r posibiliad hynny ymysg Eisteddfodwyr.
“Dyw’r Cymry Cymraeg, o leia’r rheiny sydd ar y maes, ddim eisiau hynny,” meddai.