Lleucu Roberts heddiw, yn ennill am yr eildro (llun: Sion Richards)
Enillydd y Fedal Ryddiaith eleni yw Lleucu Roberts o Rhostryfan, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen ddoe.
Dyma’r tro cynta’ i’r un person ennill y ddwy brif wobr ryddiaith yn yr un Eisteddfod – “Dych chi ddim yn cael rhyw déjà vu eisteddfodol torfol”, meddai’r Archdderchwydd Christine wrth gyhoeddi ei henw.
Fe gafodd ganmoliaeth uchel am gyfrol o straeon byrion am fywyd merched. Yn ôl y tair beirniad – Catrin Beard, Meg Elis a Manon Rhys – roedd ei gwaith yn cynnwys “holl rychwant bywydau menywod”.
Roedd modd dychwelyd drachefn a thrachefn, medden nhw a darganfod rhywbeth newydd ac roedd y gyfrol, Saith Oes Efa, yn “haeddu ei lle ar unrhyw silff”.
Fe gyfaddefodd yr awdures wrth golwg360 ar ôl seremoni’r prynhawn yma ei bod hi’n “crynu mwy” wrth godi heddiw nag yr oedd hi ddoe.
Cystadleuaeth dda
Y gofyn oedd cyfrol o ryddiaith heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema ‘Gwrthdaro’.
Yn ôl y beirniaid, roedd nifer yn cyrraedd lefel deilwng o safon y gystadleuaeth a thri yn agos iawn at y wobr.
Roedd yna 11 o gystadleuwyr ac roedd y beirniaid wedi eu plesio gan gynigion crefftus a rhai “oedd yn codi i dir uchel iawn”.
Beth ddywedodd y beirniaid
“Dawn arbennig Honna… yw ei gallu rhyfeddol i gyfleu i’r dim amrywiaeth tafodieithoedd ei chymeriadau,” meddai Catrin Beard wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan.
“Bydd ei ffefryn gan bawb o blith y straeon – hoffais i’r dogn helaeth o ddyfeisgarwch a hiwmor yn Ffydd, stori a wnaeth i mi chwerthin yn uchel, am wraig o Sir Gaerfyrddin sy’n argyhoeddedig fod Duw wedi symud i fyw i’r tŷ drws nesaf, ond uchafbwynt y casgliad i Manon yw stori Gwen, yr hen wraig fethedig mewn cartref gofal, a gollodd y gallu i gyfathrebu, ond wrth iddi gael ei thrin a’i thrafod gan ei gofalwyr, caiff y darllenydd y cyfle i rannu ei meddyliau a’i hatgofion cyfrinachol.
“Ys dywedodd Meg, mae cymaint o berlau yn y gadwyn hon o straeon. Mae Honna yn trin iaith yn gyson gelfydd, a’i champ yw peidio â gwthio’r gelfyddyd i’ch wyneb – y pleser yw dychwelyd drachefn a thrachefn, a chanfod rhywbeth newydd o hyd.
“Mae Saith Oes Efa’n gyfrol sy’n haeddu ei lle ar unrhyw silff lyfrau. Dyma enillydd teilwng sy’n llawn haeddu’r Fedal Ryddiaith gyda phob clod.”
Yr enillydd
Cafodd Lleucu Roberts ei magu yn ardal Bow Street, Ceredigion ond bu’n byw yn Rhostryfan ger Caernarfon ers dros ugain mlynedd.
Mae’n briod â Pod, ac mae ganddyn nhw bedwar o blant, Gruffudd, Ffraid, Saran a Gwern.
Cafodd ei haddysgu yn Ysgol Rhydypennau, Ysgol Penweddig ac Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth.
Mae’r rhif saith wedi dod â chryn lwc iddi dros y blynyddoedd, gan iddi ennill gradd doethur am ei gwaith ar Y Saith Pechod Marwol yng Nghanu Beirdd yr Uchelwyr.
Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhwllheli ym 1982 tra roedd yn yr ysgol.
Bu hefyd yn olygydd yng Ngwasg y Lolfa cyn symud i faes ysgrifennu a sgriptio ar gyfer radio a theledu.
Mae hi eisoes wedi cyhoeddi chwe nofel i oedolion a phum nofel i blant ac oedolion ifanc, ac mae hi wedi ennill Gwobr Tir na-n-Og ddwywaith.