Rhai o ddirprwyaeth Llywodraeth Chubut yn yr Eisteddfod (Llun: Iolo Cheung)
Mae’r Eisteddfod yn gyfarwydd ag ymwelwyr o’r Wladfa bob blwyddyn, ond eleni mae dirprwyaeth arbennig o Batagonia wedi ymweld â’r maes.
Yr wythnos hon mae gan Lywodraeth Chubut stondin ar y maes, ac nid yn unig hynny – heddiw fe gyrhaeddodd grŵp o weinidogion cabinet y llywodraeth am eu hymweliad cyntaf erioed â’r Eisteddfod.
Ar drothwy 150 mlynedd y flwyddyn nesaf o ddathlu’r Cymry cyntaf yn cyrraedd y Wladfa, mae llywodraeth y ddwy wlad yn awyddus i atgyfnerthu’r cysylltiadau.
Cafodd yr ymwelwyr, fydd yma am dridiau, gyfle i grwydro’r maes ar ôl taro mewn i stondin Llywodraeth Chubut a chyflwyno arlwy o fwydydd o Batagonia.
Dywedodd maer tref Gaiman, Gabriel Restucha, wrth golwg360 eu bod wedi gweithio’n galed i berswadio llywodraeth Chubut i ddod draw i Gymru cyn y dathliadau’r flwyddyn nesaf.
Ac fe ddywedodd Yvonne Jones, arweinydd gorsedd y Wladfa, ei bod hi’n falch bod aelodau sydd ddim o dras Gymreig hefyd yn rhan o’r daith.
“Rydan ni i gyd wedi cael ein magu gyda’r syniad yma o Gymru fach werdd a hapus,” meddai Yvonne Jones.
“Mae pawb wedi gwirioni, hyd yn oed y rhai sydd ddim o dras Gymreig, wedi cael eu cynhyrfu’n llwyr.”