Heddlu ar y maes
Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i ymchwilio i ladrad ar Faes yr Eisteddfod yn Llanelli dros nos ar Awst 4-5.

Cafodd dwy sêff arian oedd yn cynnwys miloedd o bunnoedd eu dwyn yn ystod y digwyddiad yn y Ganolfan Groeso.

Mae lle i gredu bod tua £5,000 yn y ddwy sêff ar gyfer y diwrnod canlynol.

Yn ôl Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, roedd y lladron wedi torri i mewn o dan ffens a thrwy bared plastig ac i mewn i brif fynedfa’r safle.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys fod y ddwy sêff wedi cael eu darganfod yn wag ger y safle brynhawn ddoe.

Maen nhw wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.

“Mae Securicor yn dod bob dydd i gasglu’r rhan fwya’ o’r arian,” meddai Elfed Roberts, “ond mae’n rhaid cadw rhywfaint o arian mân yn ôl er mwyn y diwrnod wedyn.”

Roedd rhai peiriannau hefyd wedi cael eu dwyn, er na fydden nhw o fawr ddim gwerth i neb ond yr Eisteddfod ei hun.

Mae’r Eisteddfod yn cyflogi cwmni diogelwch ers rhai blynyddoedd ond mae ffiniau’r maes yn hirach nag arfer eleni.