Nikara Jenkins
Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ymweliad gan un o sêr chwaraeon diweddaraf Cymru heddiw, wrth i’r gymnastwraig Nikara Jenkins ymweld â’r maes i ddangos ei medal.
Fe gipiodd Jenkins, Frankie Jones a Laura Halford fedal arian yng nghystadleuaeth tîm y gymnasteg rythmig, y cyntaf o 36 i dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow.
Y prynhawn yma fe ddaeth y ferch leol 16 oed draw i stondin Ysgol y Strade i ddangos ei medal a rhoi cyfle am lun gydag eisteddfodwyr ifanc a hen.
Fe ddenodd ei hymweliad dipyn o sylw ar y maes, yn ogystal â bod yn brofiad arall i’r athletwraig ifanc o flaen y cyfryngau, ond fe gyfaddefodd ei bod yn “neis cael y support yma adref”.
Dywedodd wrth golwg360 hefyd ei bod yn falch bod ei llwyddiant cynnar hi, Halford a Jones yn y Gemau wedi gallu rhoi hwb i dîm Cymru yng Nglasgow.
“Ro’n i’n gobeithio bydde fe’n rhoi pwsh i’r athletwyr eraill,” meddai Nikara Jenkins. “[Ar ôl hynny] ro’n i ‘di mynd i wylio athletau a gymnasteg artistig.
“Fi’n gobeithio ymarfer nawr lan at [Gemau Gymanwlad] y Gold Coast yn 2018.”
Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones hefyd wedi cyhoeddi heddiw y bydd digwyddiad o flaen y Senedd i longyfarch yr athletwyr am eu llwyddiant yng Ngemau’r Gymanwlad.