Leanne Wood
Mae Plaid Cymru wedi lansio gwefan newydd ar Faes yr Eisteddfod y bore ma i annog mwy o bobol i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.
Y nod yn y pen draw yw cynnwys syniadau sy’n cael eu casglu ar y wefan newydd ym maniffesto’r Blaid ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn 2016.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wnaeth lansio’r wefan ‘Miliwn Syniad’ ar stondin Plaid Cymru ar faes y Brifwyl yn Llanelli.
Cafodd y wefan ei chreu yn dilyn gwaith ymchwil arbenigol a chyfnod peilota, a nod y prosiect yw sefydlu ffordd newydd a chyffrous i feithrin gwleidyddiaeth gyfranogol, sy’n greadigol ac yn gymdeithasol, ac yn caniatáu i bawb gynnig syniadau a thrafod.
‘Cynnig syniadau’
Mae platfform Miliwn Syniad, sydd wedi ei gynllunio’n arbennig i gasglu syniadau ac ymatebion i syniadau eraill drwy gyfrwng gwefan, wedi ei greu gan Blaid Cymru yn dilyn gwaith ymchwil arbenigol a chyfnod peilota.
Nod y prosiect yw “sefydlu ffordd newydd a chyffrous i feithrin gwleidyddiaeth gyfranogol, sy’n greadigol ac yn gymdeithasol, ac yn caniatáu i bawb gynnig syniadau a thrafod”.
Ar y wefan newydd, fe fydd modd trafod nifer o feysydd gwleidyddiaeth, gan gynnwys addysg, iechyd, yr amgylchedd, ynni, yr economi a’r Gymraeg.
Bydd cyfle i ymwelwyr â’r Eisteddfod roi cynnig ar y wefan newydd yn ystod y dydd heddiw.
Cafodd y safle ei ddatblygu gan NativeHQ o Gaerdydd, gan ddefnyddio platfform UserVoice, gafodd ei gyfieithu gan Blaid Cymru’n benodol ar gyfer y prosiect.
Annog pawb i gymryd rhan
Wrth lansio prosiect ‘Miliwn Syniad’, dywedodd Leanne Wood: “Does dim amheuaeth nad yw Cymru a’i phobloedd eto wedi cyrraedd ein llawn botensial.
“Ein pobl yw ein prif ased a gallwn wneud cymaint mwy drwy ddefnyddio’r doniau sydd yma – drwy siarad â’n gilydd, rhannu ein gwybodaeth a’n syniadau mewn sgwrs genedlaethol.
“Dylai pawb gymryd rhan yn y sgwrs ynglŷn ag adeiladu Cymru.
“Mae Plaid Cymru yn gweld prosiect Miliwn Syniad fel meicrocosm o’r prosiect cenedlaethol.
“Mae Plaid Cymru wedi ein hymrwymo i gael miliwn o sgyrsiau gyda phobl Cymru cyn etholiadau’r Cynulliad yn 2016. Sgyrsiau ar stepen y drws, yng nghanol ein trefi, mewn boreau coffi, digwyddiadau cymdeithasol, sioeau, gwyliau, ym mhob math o ddigwyddiadau ac ar-lein. Mae’n broses rydym ni am ei defnyddio fel cyfle i ddysgu a gwella ein polisïau.”
‘Nid siop siarad’
Dywedodd Carl Morris o gwmni NativeHQ: “Mae cyfryngau digidol yn hwyluso mathau newydd o drafodaeth gynhyrchiol rhwng pobl wahanol – a sefydliadau o bob math, ond dim ond y sefydliadau hynny sy’n fodlon addasu eu hagweddau a dulliau.
“Nid siop siarad ydy’r prosiect – beth sy’n wahanol o’i chymharu â mentrau eraill ydy’r ffocws ar ddefnydd o’r syniadau yn y byd go iawn.
“Rwy’n edrych ymlaen at ddilyn y siwrnai mae’r syniadau i gyd yn ei dilyn – o feddwl un person – i sgwrs ar blatfform Miliwn Syniadau ac wedyn, mewn rhai achosion, y tu hwnt i hynny.”