Y darlun o Roald Dahl
Fe fydd darlun newydd o’r awdur o Gaerdydd, Roald Dahl, yn cael ei arddangos yn Llundain am y tro cyntaf.
Mae’r darlun, fydd yn cael ei arddangos yn y National Portrait Gallery, yn dangos yr awdur yng ngwisg y Llu Awyr adeg yr Ail Ryfel Byd, wedi iddo ddychwelyd i Gymru yn dilyn damwain awyren yn Libya.
Daeth ei gyfnod yn y Llu Awyr i ben yn dilyn y ddamwain.
Syniad Dahl oedd y portread, gafodd ei ddylunio gan yr artist Matthew Smith, oedd wedi colli dau fab a oedd yn gwasanaethu yn y Llu Awyr.
Dechreuodd gyrfa Roald Dahl fel awdur adeg yr Ail Ryfel Byd pan gafodd ei berswadio i gofnodi ei brofiadau yn Libya ac fe arweiniodd hynny at ysgrifennu degau o lyfrau i blant.
Dywedodd curadur portreadau’r ugeinfed ganrif yr oriel yn Llundain, Paul Moorhouse: “Yn ystod yr ugeinfed ganrif, roedd artistiaid arloesol fel Matthew Smith a Frank Dobson wedi datblygu’r grefft o bortreadu mewn ffyrdd newydd.
“Gan bwysleisio rhinweddau lliw, golau a gwead, mae eu portreadau’n wrthrychau synhwyrus a mynegiadol rhyfeddol ynddyn nhw eu hunain.
“Mae’r arddangosfa’n cynnig cyfle i gymharu cyflawniadau clodwiw’r artistiaid hyn.”
Bydd yr arddangosfa i’w weld tan Ebrill 6 y flwyddyn nesaf.