Rhys Meirion
Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw bydd Cerddwn Ymlaen yn lansio’r daith gerdded nesaf i gasglu arian at achosion da.

Ar ôl tair blynedd o gerdded ar hyd Cymru, bydd ymgyrch elusennol y canwr Rhys Meirion yn mynd i Batagonia’r flwyddyn nesaf.

Bydd yr arian a godwyd gan Cerddwn Ymlaen 2015 yn mynd i Gronfa Elen, i gefnogi rhoi organau yng Nghymru, ac i Ysgol Gymraeg yr Andes ym Mhatagonia.

Bydd y daith yn digwydd rhwng 17 a 26 Tachwedd ac fe fydd hi’n rhan swyddogol o Ddathliadau Patagonia 2015  gan y bydd 150 o flynyddoedd wedi bod ers i Gymry lanio yn y wlad.

Bydd Cerddwn Ymlaen yn lansio’r daith, a fyddai’n  gallu cynnwys hyd at 60 o gerddwyr, yn eu stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli am 1.30 heddiw.

Ond, i fod yn un o’r 60 o gerddwyr, bydd rhaid codi isafswm o £4,000 i’r elusennau.

Yn y lansiad, bydd Martín Buzzi, Llywodraethwr Talaith Chubut sydd wedi dod i’r Eisteddfod yn ystod ei ymweliad a Chymru.

Dywedodd Rhys Meirion ei fod “falch iawn” y bydd Cerddwn Ymlaen ar y ffordd eto’r flwyddyn nesaf.