Carwyn Jones
Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn trafod dyfodol addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw.

Yn ogystal â’i ymweliad â stondin Cyngor Sir Gaerfyrddin, bydd Carwyn Jones hefyd yn cyfarfod ag Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Kevin Madge.

Ymhlith y testunau trafod bydd yr adroddiad gan Weithgor y Cyfrifiad Cyngor Sir Gaerfyrddin ynghyd â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn cynnwys argymhellion yr adroddiad er mwyn creu rhaglen flaengar sy’n sicrhau datblygu dilyniant dysgu pendant o ran yr iaith rhwng Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3.

Cryfhaur iaith

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Yma, yn y Llywodraeth, rydyn ni’n derbyn ein rhan ni yn yr her o gryfhau’r iaith at y dyfodol.

“Mae’n hanfodol bwysig bod arweinwyr ledled Cymru hefyd yn gosod y Gymraeg yn uchel ar yr agenda ar draws yr holl waith y maent yn ei wneud.”

Dywedodd aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg, y Cynghorydd Keith Davies: “Carwn dynnu sylw at ymrwymiad yr adran addysg i hyrwyddo addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer disgyblion yn y sir, ac rwyf yn falch fod Prif Weinidog Cymru yma heddiw i dderbyn copi o’r strategaeth.”

Yn ogystal â hyn, bydd y Prif Weinidog hefyd yn cyhoeddi buddsoddiad o £1.25 miliwn ar gyfer canolfannau iaith heddiw  er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.