Mae Cyngor Sir Gâr yn cyhoeddi eu cynlluniau dros yr iaith Gymraeg heddiw ac maen nhw am ofyn i’r cyhoedd am sylwadau a syniadau ynghylch dyfodol strategaeth yr iaith yn y sir.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl i’r cyngor gyhoeddi amserlen i weithredu’r strategaeth iaith newydd ddydd Gwener.

Ar faes yr Eisteddfod heddiw cafwyd croeso i’r TrafodIAITH a lansiwyd gan y Cynghorydd Mair Stephens, sydd yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg ar gabinet Cyngor Sir Gâr.

Cefndir

Roedd y Cyfrifiad diwethaf yn dangos, am y tro cyntaf, bod llai na hanner poblogaeth y sir yn siarad Cymraeg.

Roedd y ffigyrau’n dangos mai 43.9% o siaradwyr Cymraeg oedd yn y sir yn 2011 o’i gymharu â 50.3% yn 2001.

Ers hynny, mae’r cyngor wedi bod yn gweithio ar gynllun gweithredu er mwyn mynd i’r afael ag argymhellion yn adroddiad ‘Yr Iaith Gymraeg yn Sir Gâr’ a gafodd ei gyflwyno ger bron y cyngor llawn ym mis Ebrill.

Cafodd yr adroddiad ei wneud gan weithgor tasg a gorffen o gynghorwyr traws pleidiol. Roedden nhw’n ymchwilio i’r ffactorau oedd wedi arwain at y dirywiad ac i lunio argymhellion er mwyn ymdrin â’r sefyllfa.

Cymdeithas

Meddai Cymdeithas yr Iaith mewn datganiad heddiw eu bod nhw am gynnal “parti” ger pabell Cyngor Sir Gâr ar faes yr Eisteddfod ddydd Gwener.

Mae Cymdeithas o’r farn bod y cynlluniau wedi dod yn dilyn pwysau mawr gan bobl y sir ers y rali fawr o 500 o bobl ym mis Ionawr llynedd.
Dywedodd Bethan Williams, Swyddog Maes Dyfed y Gymdeithas:”Mae pob datblygiad o werth o ran hybu’r Gymraeg wedi dod gan bobl Sir Gâr eu hunain, nid trwy fenter llywodraeth ganolog, ac anogwn y Cyngor i gofio hyn os bydd ein Prif Weinidog yn galw heibio’r wythnos hon i geisio rhywfaint o glod.”