James Oakley, 10 oed, yn rhoi cynnig 'hedfan' y model
Dyw gwyddonwyr ac arloeswyr technegol ddim yn cael digon o sylw yn y byd Cymraeg, meddai hanesydd lleol sydd wedi dod â model o awyren 100 oed i faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Does dim byd am y brodyr James o Arberth yn amgueddfa eu tref eu hunain, meddai Rheinallt James o Glunderwen, Sir Benfro.

Hynny er eu bod yn arloeswyr annibynnol ym myd awyrennau ac un o’r ddau’n ddigon enwog i fod ar ffilmiau newyddion Pathé a chardiau sigarét.

A dyw plant ddim yn cael digon o gyfle i arbrofi a mentro fel y gwnaeth y ddau frawd o Sir Benfro: “Mae addysg nawr mor gul, dyw plant ddim yn cael cyfle i chwarae ac arloesi,” meddai.

Model ar y maes

Mae Cymdeithas Hanes Clunderwen wedi dod â model o awyren Herbie a Henry James i Lanelli, i gofio taith awyr a wnaethon nhwthau o Grymych i Lanelli yn 1914 – o fewn llai na naw mlynedd i ehediad mawr cynta’r byd gan y Brodyr Wright.

Mae’r model, sydd hefyd yn beiriant ymarfer hedfan – simulator – wedi ei greu gan bobol ifanc leol trwy gynllun sy’n cael arian gan y Loteri.

Ond fe fu’n rhaid i Rheinallt James dalu o’i boced ei hun am ddod â’r model i’r Maes, lle mae plant yn gallu dringo iddo ac esgus hedfan tros luniau cyfrifiadur o daith y Brodyr James.

Arloeswr arall

Mae’r peiriant esgus wedi ei greu ar sail peiriant gan ddyn arall o Sir Benfro – Hywel Walters – un o’r rhai cynta’ o’i fath yn y byd.

Fe fydd yn cael cartre’ mewn amgueddfa ar ôl diwedd y prosiect, er nad oes lle pendant wedi ei gael iddo eto.

Roedd Herbie James yn enwog iawn yn ei ddydd, yn rasio awyrennau tros dîm Prydain ac yn hyfforddi awyrenwyr yn ystod y Rhyfel Mawr.

Mae’r Gymdeithas hefyd yn codi arian ar gyfer dau fachgen lleol a gafodd eu lladd wrth gario bom Americanaidd o fryn uwchlaw Clunderwen adeg yr Ail Ryfel Byd, yn 1944.