Bydd modd gweld gemau Guinness Pro12 yn rhad ac am ddim y tymor nesaf ar ôl i S4C a BBC gyhoeddi cytundeb hawliau pedair blynedd newydd.

Bydd BBC Cymru Wales yn dangos gemau Nos Wener ar Scrum V Live, a S4C yn dangos gemau ar brynhawniau Sul ar Clwb Rygbi.

Bydd newidiadau i’r gystadleuaeth y flwyddyn nesaf gan y bydd canlyniadau diwedd tymor yn penderfynu a fyddan nhw’n cyrraedd pencampwriaeth Ewrop, Cwpan y Pencampwyr Rygbi, ai peidio.

Meddai prif weithredwr Pro12, John Feehan ei fod yn edrych ymlaen at weld y “gystadleuaeth yn tyfu” tra bod cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, eu bod nhw wedi “setlo ar fargen dda”.

Ychwanegodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, “Rydw i’n teimlo balchder mawr wrth gyhoeddi bod S4C unwaith eto wedi sicrhau bod rygbi rhanbarthol Cymru ar gael i’w wylio’n fyw ar deledu heb yr angen i danysgrifio.”