Ysgol Gerdd Chetham's
Mae cyn-athro mewn ysgol gerdd enwog, wedi cael ei gyhuddo o drais.

Mae Malcolm Layfield, a arferai ddysgu yn Ysgol Gerdd Chetham’s ym Manceinion, wedi’i gyhuddo o dreisio dynes 18 oed yn 1982.

Fe aeth y tiwtor feiolin 62 mlwydd oed yn ei flaen wedyn i ddysgu yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd (RNCM) ym Manceinion. Fe ymddeolodd o’i swydd yn bennaeth gwersi llinynnol ym mis Chwefror y llynedd.

Y gred ydi fod y ddynes sydd wedi dwyn y cyhuddiad yn gyn-ddisgybl yn un o’r ysgolion cerdd.

Mae disgwyl i Malcolm Layfield ymddangos gerbon Llys Ynadon Dinas Manceinion ar Awst 14.