Llyfrgell Ganolog Caerdydd (Llun: Wicipedia)
Bydd Llyfrgell Ganolog Caerdydd ar gau bob dydd Mercher o’r wythnos nesaf ymlaen i arbed arian i Gyngor y brifddinas.
Penderfynodd Cyngor Caerdydd ym mis Chwefror y byddan nhw’n cau pob un o lyfrgelloedd y sir un diwrnod yr wythnos fel rhan o gynlluniau ehangach i arbed £50m dros y ddwy flynedd nesa’.
Mae’r cyngor yn disgwyl y bydd ail-strwythuro yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd – yr adeilad modern a gafodd ei godi o’r newydd fel rhan o ddatblygiad siopa John Lewis yn Yr Aes – yn ogystal â’r penderfyniad i gau un diwrnod yr wythnos, yn arbed £500,000 eleni.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury bod y cyngor yn ymddiheuro i ddefnyddwyr y llyfrgell am yr “anghyfleustra” ond ychwanegodd bod llyfrgelloedd eraill o gwmpas y ddinas ar agor ar ddyddiau Mercher.
Meddai Peter Bradbury, yr aelod cabinet dros ddatblygu cymunedol, cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol: “Bydd cau’r Llyfrgell Ganolog bob dydd Mercher yn helpu’r Cyngor i sicrhau arbedion sylweddol dros y flwyddyn nesaf wrth i ni geisio goresgyn yr heriau sydd o’n blaenau yn sgil cynnydd yn y galw am wasanaethau a chyllidebau llai.
“Hoffem ymddiheuro i aelodau a phobl eraill sy’n defnyddio’r llyfrgell am unrhyw anghyfleustra a achosir yn sgil cau’r llyfrgell bob dydd Mercher. Mae’r gwasanaeth llyfrgell yn parhau i fod ar agor chwe diwrnod yr wythnos mewn lleoliadau ledled y ddinas a byddem yn annog pobl sydd arfer mynd i’r Llyfrgell Ganolog ar ddydd Mercher i ddefnyddio eu llyfrgell leol neu lyfrgelloedd cyfagos ar y diwrnod hwnnw.”