Gruff Rhys
Fe fydd Gruff Rhys yn perfformio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gan roi rhagflas o’i brosiect diweddara’ am was fferm a aeth o ardal Caernarfon i America yn 1792.

‘I Grombil Cyfandir Pell – American Interior’ ydi teitl prosiect canwr Super Furry Animals, ac fe fydd y ffilm yn cael ei dangos gyntaf ar S4C ym mis Medi

Mae’n adrodd John Evans o’r Waunfawr a aeth ar ei daith i geisio canfod a oedd llwyth o ddisgynyddion y Tywysog Madog yn dal i fyw yno ac yn siarad Cymraeg. Hynny, a’i fod eisiau ennill bet a wnaeth efo neb llai na Iolo Morgannwg.

Teithiodd John Evans, yn 22 oed, o Baltimore bob cam at gynefin llwyth y Mandaniaid yn nhalaith Gogledd Dakota, fel y gelwir hi heddiw. Yn 2012 cychwynnodd Gruff Rhys ar yr un daith yn union, er mwyn olrhain hanes rhyfeddol ei berthynas pell.

Mae Gruff eisoes wedi perfformio’r sioe hon ledled gwledydd Prydain, a bydd yn mynd â hi ar daith i America ddiwedd y flwyddyn.