Mae tri o brif archfarchnadoedd y DU wedi lansio ymchwiliadau i’w cyflenwadau cyw iâr ar ôl i ymchwiliad ddatgelu methiannau hylendid honedig mewn ffatrïoedd yng Nghymru a Lloegr.

Mae rhai o’r honiadau yn ymwneud a ffatri yn Ynys Môn.

Yn ôl adroddiad ym mhapur newydd The Guardian roedd lloriau rhai o’r ffatrïoedd yn gorlifo â pherfedd cywion ieir ac ieir wedi cael eu trin yn dod i gysylltiad ag esgidiau gweithwyr cyn cael eu rhoi nôl ar y llinell gynhyrchu.

Mae’r honiadau yn ymwneud â dau o’r proseswyr cywion ieir mwyaf yn y DU sef 2 Sisters Food Group a Faccenda. Mae gan 2 Sisters ffatri yn Llangefni ar Ynys Môn.

Mae’r ddau gwmni’n gwadu honiadau’r Guardian ond dywedodd 2 Sisters wrth y papur newydd nad oedd yn stopio’r llinell gynhyrchu pan oedd problemau’n arwain at berfeddion y cywion ieir yn pentyrru oherwydd bod angen ystyried lles yr ieir sy’n cael eu cadw mewn cratiau cyn cael eu lladd.

Dywedodd y papur newydd fod ei adroddiad yn seiliedig ar ffilm gudd, tystiolaeth ffotograffig a gwybodaeth gan weithwyr oedd yn ymwneud â safonau hylendid y diwydiant i atal heintio cyw iâr â’r haint, campylobacter.

Cadarnhaodd Tesco, Sainsbury’s a Marks & Spencer eu bod wedi lansio ymchwiliadau i’r cwmnïau sy’n cyflenwi cyw iâr iddyn nhw.

Mae’r ffigurau diweddaraf gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) yn awgrymu bod 65% o gywion ieir amrwd sy’n cael eu prynu mewn siop wedi eu heintio â campylobacter, sy’n achosi’r rhan fwyaf o wenwyn bwyd yn y DU.

Er bod coginio’r cyw iâr yn lladd yr haint, mae’n gyfrifol am fwy na 300,000 o achosion o wenwyn bwyd a 15,000 o achosion sy’n arwain at driniaeth yn yr ysbyty bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ei fod yn ymwybodol o’r honiadau a byddai’n eu codi gyda’r cwmnïau dan sylw.

‘Camarweiniol’

Mewn datganiad, dywedodd 2 Sisters Food Group bod yr honiadau am eu ffatrïoedd yn Scunthorpe a Llangefni yn “anwir, yn gamarweiniol ac yn anghywir.”

Meddai’r datganiad: “Does dim heintio neu broblemau yn ein safleoedd, fel y cadarnhawyd gan fwy nag un archwiliad allanol annibynnol ac ein profion trwyadl ein hunain.

“Mae gan y cwmni bolisi agored i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol fel awdurdodau lleol, y cyfryngau a chyrff y llywodraeth.

“Byddwn yn gweithio i ymgysylltu ymhellach â’n rhanddeiliaid yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn rhoi sicrwydd iddynt am ein ffatrïoedd yn dilyn yr erthygl anghywir a chamarweiniol hon.”