Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan
Mae Archesgob Cymru wedi talu teyrnged i esgob Cymreig oedd wedi ymddeol a fu farw’r wythnos diwethaf.
Bu farw’r Esgob Cledan Mears, cyn Esgob Bangor, ar ôl salwch byr ar 13 Gorffennaf.
Bydd ei angladd yn cael ei arwain gan yr Archesgob, Dr Barry Morgan, yn Eglwys Dewi Sant, Caerdydd, ar 30 Gorffennaf am 1.45 y prynhawn.
Fe wnaeth yr Esgob Cledan Mears wasanaethu fel Esgob Bangor am 10 mlynedd cyn ei ymddeoliad yn 1992.
Yr oedd wedi dechrau ar ei weinidogaeth yn Esgobaeth Llanelwy, cyn cyfnod yn darlithio mewn diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac fel is-warden Coleg Mihangel Sant. Bu wedyn yn Ficer Gabalfa, Caerdydd, cyn dod yn Esgob Bangor.
Dywedodd yr Archesgob, Dr Barry Morgan, ei fod yn “bregethwr ac athro ysbrydoledig”.
Meddai: “Fel y dywedodd rhywun amdano, roedd yn well ganddo petai pobl yn edrych arno yn y llygad, yn hytrach nag i fyny ato.
“Bu’n gofalu am y clerigwyr mewn ffordd ragorol ac yn rhoi pwyslais mawr ar ymweld. Yr oedd yn ddyn gwylaidd a, gyda’i ddiweddar wraig, Enid, yn groesawgar iawn.”
Ar ôl ei ymddeoliad, ymgartrefodd yng Nghaerdydd ac ymunodd â’r côr Eglwys Dewi Sant.