Pet Shop Boys
Mae Gŵyl Rhif 6 wedi cyhoeddi fideo o fersiwn Côr Meibion y Brythoniaid o ‘Go West’ gan y Pet Shop Boys.

Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i’r ŵyl ryddhau fideo gan y côr yn canu cân gan un o’r bandiau fydd yn ymddangos yn yr ŵyl ym Mhortmeirion.

Mae eu fersiwn nhw o’r gan ar gael i’w weld ar wefan youtube.

Y llynedd, fe wnaeth y côr recordio fersiwn o’r anthem disco, ‘Good Times’ gan Chic, a’r flwyddyn flaenorol ‘Blue Monday’ gan New Order gafodd ei recordio.

Bydd Côr y Brythoniaid yn perfformio yn yr ŵyl ynghyd â’r Pet Shop Boys, Beck a London Grammar dros benwythnos 5, 6 a 7 Medi eleni.