Mae S4C wedi arwyddo Cytundeb o Fwriad i gydweithio gyda chwmni sianel deledu JTV yn Ne Corea.
Dyma’r tro cyntaf i’r sianel a’r cwmni cynhyrchu o Gaernarfon, Awen Media a Rondo Media, gydweithio mewn partneriaeth gyda darlledwr o Dde Corea.
Yn sgil y cytundeb newydd, bydd y cynhyrchwyr o Gymru yn dechrau ffilmio tair rhaglen ddogfen yn y wlad ym mis Medi.
Bydd y rhaglen gyntaf yn olrhain hanes y cenhadwr Robert Jermain Thomas, sydd yn cael ei gyfrif fel y gŵr a gyflwynodd Gristnogaeth i Dde Corea, a’r ddwy raglen arall yn archwilio cysylltiad y Cymry gyda brwydr Corea.
‘Torri cwys newydd’
Dywedodd Comisiynydd Cynnwys S4C, Llion Iwan, fod y cydweithio rhwng S4C a JTV yn “torri cwys newydd”:
“Mae’r cytundeb o fwriad yn arwydd o ymroddiad y ddau ddarlledwr i greu dolen ddiwylliannol, gyffrous a fydd yn arwain at raglenni a fydd yn hwb i’r diwydiannau creadigol ar ddau gyfandir.
“Mae’r cydweithio creadigol yma’n torri cwys newydd inni fel darlledwr trwy ein partneriaeth ag un o wledydd pwysicaf Asia.
“Mae cynyrchiadau fel y gyfres ddrama Y Gwyll eisoes ar fap y byd. Fe all cydweithio gyda The Bridge, sy’n pontio cynhyrchwyr ym Mhrydain gyda chwmnïau yn Asia, a theledu JTV ehangu’n cynyrchiadau yn fwy fyth.”
Ychwanegodd Jeong Hee, cynhyrchydd o JTV. “Rydym wrth ein boddau cael cydweithio gyda chwmnïau cynhyrchu yng Nghymru, Awen Media a Rondo Media a gyda’r darlledwr S4C.
“Mae’n gyfle i ddod â’r holl straeon oriau anghyffredin a phwysig hyn at ei gilydd, hanesion sydd yn hynod bwysig ac yn sicr o fod o ddiddordeb eang i gynulleidfa newydd.”