Prifysgol Bangor
3.35pm: A dyna ni! Dyna ddiwedd y gynhadledd. Mae Dyfrig Jones yn diolch i gefnogwyr y gynhadledd – gan gynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, S4C, Golwg, Golwg360, BBC Cymru, Cwmni Da, Rondo, ac Archif Genedlaethol Sgrin a Sain.
Mae’n diolch i bawb a gyfranodd at drefnu y gynhadledd, ac i bawb a gyflwynodd bapur. Roedd bob un o’r papurau yn ddifyr, ac dyw hynny ddim bob amser yn wir am gynhadledd academaidd, meddai.
Mae Geraint Wyn Ellis yn diolch i Dyfrig Jones am drefnu’r gynhadledd. Mae hefyd yn diolch i Anwen Pari Jones am fod yn ysgrifennydd Cyfrwng dros y blynyddoedd diwethaf.
Diolch yn fawr i Dr Rhys Jones am gynnal y cyfrif trydar yn ystod y gynhadledd. A diolch i chi hefyd am ddilyn y blog byw ddoe ac heddiw! Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau.
3pm: Bydd Charles Forceville o Brifysgol Amsterdam yn trafod ‘The journey metaphor in art animation films’.
Mae angen trosiadau ar bobl i feddwl mewn modd haniaethol. Y ‘super-trosiad’ yw meddwl=corff. Does gennym ni ddim mynediad uniongyrchol at ystyriaethau – mae angen iaith neu ddelweddau arnom ni.
Mae’n ddiddorol mae’r cymeriad Chineaidd am ‘ddyn’ yw’r coesau yn cerdded.
Mae angen llwybr, ffynhonnell a nod ar bob stori. Gall hynny olygu problem, strategaeth, datrysiad, yn ogystal. Mae Charles Forceville yn dangos ffilmiau animieddedig sy’n dangos trosiad y ’daith’ ar waith – O, a ‘The Life’, a’i ffilm ei hun ‘Life is a Journey‘. Mae symud yn llyfn mewn animeiddiad yn tueddu i olygu bod y cymeriadau yn cyrraedd eu nod yn rhwydd, ond pan mae rhywbeth yn dod yn eu ffordd, mae’n golygu eu bod nhw’n cael trafferth wrth gyrraedd eu nod. Mae’r daith corfforol yn adlewyrchiad o’r daith ysbrydol. Mae diwedd y daith yn adlewyrchu dechrau’r daith. Mae’r daith ei hun yn bwysicach na chwblhau’r daith. Roedd rhai o’r syniadau am y daith fel trosiad yn rhy gymhleth i’w hesbonio yn y ffilm. Cafodd drafferth wrth gyfathrebu ei syniadau i’r myfyrwyr oedd yn gwneud yr animeiddio.
Wrth ateb cwestiwn mae’n dweud bod mwy o bwyslais ar y cymeriad yn mynd yn ôl i le y dechreuodd mewn ffilmiau Americanaidd nag mewn rhai Ewropeaidd. Mae’n gobeithio astudio ffilmiau ‘Manga’ o Japan yn y dyfodol.
2.20pm: Mae Lyle Skains o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor nawr yn lansio maniffesto Grŵp Ymchwil Ymarfer Creadigol.
Sut mae penderfynu sut mae asesu gwerth academaidd gwaith creadigol? Mae canllawiau Bangor yn awgrymu y dylai’r gwaith fod o safon broffesiynol, y byddai modd ei gyhoeddi. Ond beth os yw’r gwaith yn arbrofol? Mae’r maniffesto yn dweud y gellid rhoi rhagor o bwyslais ar y modd y mae’r gwaith yn cyfrannu at wybodaeth yn y maes.
Bydd y sgwrs olaf gyda Charles Forceville yn dilyn yn fuan. O ganlyniad i absenoldeb dau o’r siaradwyr, dim ond un sy’n weddill.
1.10pm: Penderfynodd Gideon Koppell ar bwnc ei gyflwyniad wrth orwedd mewn pabell yn yr ardd.
Pam bod angen gwahanu ymchwil ac ymarfer? Mae fel y rhwyg rhwng cefnogwyr Man Utd a Man City, meddai.
Y problem yw’r term ‘research’, ac nid yw’n gyffyrddus gyda fo. Dyna pam y meddyliodd am ‘Research Smeasearch’, wrth benderfynu ar deitl yn ei babell.
Ni ddylid ystyried nad yw’r cyhoedd yn gallu dod o hyd i ystyr mewn celf. Nid yw celf yn ail-greu y gweledol, mae’n ei wneud yn weledol. Fe ddylai gwleidyddion wrando ar gelf er mwyn dod i farn am y byd. Mae yna gyfyngiadau ar eiriau, ond ddim ar gelf. Cyn damcaniaethau doedd dim angen i gelf gyfiawnhau ei hun – o nawr ymlaen, rydyn ni’n gaeth i’r dasg o geisio amddiffyn celf.
Ers yr 80au mae gan ‘ymchwil’ ystyr sefydliadol. Mae’n cael ei fesur yn ôl ei werth, ac mae gan y mesuriadau rheini oblygiadau ariannol difrifol i brifysgolion. Rhaid i bob brifysgol wneud cais i’r llywodreath am arian ymchwil, sydd yn arwain at geidwadaeth. Rhaid gallu dangos bod yr ymchwil yn mynd i gyflawni rywbeth pendant cyn dechrau. Mae hynny yn golygu nad yw pobl yn dewis ymchwilio i bynciau heriol ac amwys.
Mae’r pwyslais ar ymchwil yn ymgais i roi cydraddoldeb i gelf gyda’r gwyddorau. Ond pam bod angen cydraddoldeb o’r fath? Erbyn hyn mae tocyn bws i’r llyfrgell yn cael ei ystyried yn ’nawdd ymchwil’. Mae’r pwyslais ar ymchwil yn cyfyngu ar y myfyrdod sy’n rhan bwysig o greu celf. Rhaid gorchuddio popeth mewn haen damcaniaethol. Mae’n gorfodi myfyrwyr i greu celf i derfyn amser penodol, yn hytrach na chymryd eu hamser.
Mae’n clodfori dyfarniadau Cymru Greadigol a ganiataodd iddo greu darn o waith heb roi’r pwyslais ar y canlyniad, a ganiataodd iddo greu y gosodiad ffilm Borth. Cafodd ei ysbrydoli i greu y gwaith wrth gerdded ar hyd traeth y pentref yng Ngheredigion. Roedd eisiau creu tirwedd heb ddiwedd iddo – gan bwysleisio unigedd yr olygfa. Creodd un ‘shot’ un awr o hyd ar daith araf oedd yn teithio ar hyn y llwybr rhwng y tai a’r môr. Yna golygodd tŷ cyntaf ar yr olaf, fel bod y cyfan yn llifo fel un ‘lwp’ di-ddiwedd. Roedd y profiad o’i saethu yn anodd iawn. Roedd wedi gwario y gyllideb i gyd ar un diwrnod, ac roedd llanw uchel wedi llyncu’r llwybr yr oedden nhw wedi bwriadu gyrru’r cerbyd oedd yn cario’r camera ar ei hyd. Bu’n rhaid torri llwybr newydd â JCB.
Aeth i mewn i’r tai a ffilmio synau oddi mewn iddynt, a chwarae’r synau rheini dros y delweddau gweledol wrth basio’r tai. Mae’n dangos sut y defnyddwyd CGI er mwyn gludo’r tŷ cyntaf a’r olaf at ei gilydd fel bod y pentref yn parhau yn ddi-ddiwedd.
Mae’n trafod pêl-droed Iseldireg nawr – bach o newid cyfeiriad! Y nhw gyflwynodd y syniad o allu newid maint y cae pêl-droed a’r gofod sydd ar gael drwy chwarae mewn strwythrau gwahanol. Mae hynny’n dod o ganlyniad i’w magwraeth ar dirweddau agored iawn, meddai.
Wrth ateb cwestiwn dywed Gideon Koppell nad oes ganddo’r crebwyll gwleidyddiol i herio’r drefn o wneud ceisiadau am grantiau. Dywed mai ‘moaner’ ydyw yn y bon. Mae angen i bobl ddod at ei gilydd er mwyn mynnu nad ydyn nhw’n fodlon gwneud hynny rhagor.
1.07pm: Trafodaeth ddiddorol am Gantre’r Gwaelod, Chernobyl a chwedloniaeth dros ginio! Pryhawn ma bydd Gideon Koppel yn trafod ‘Research Smeasearch’, a bydd panel yn trafod y testun ‘Ffilm a thu hwnt’. Ac wedyn dyna ni am eleni!
Cofiwch bod modd dilyn y cwbl ar y ffrwd Twitter yn ogystal: https://twitter.com/cyfrwng
12.05pm: Bydd cinio nawr ac yna bydd Gideon Koppel yn trafod ei waith am 1pm.
11.30am: Mae Sam Christie nawr yn trafod ‘Theorizing with the Documented Length of the Coastline: Towards a Symbiosis of Theory and Practice’.
Pwnc ei PhD yw ‘Cantre’r Gwaelod and Tales of Inundation’. Bydd ffilm ddogfen a darn ysgrifenedig yn rhan o’r gaith terfynol.
Mae’r ffilm yn gyflym iawn, gan ddangos dyn yn gwibio o amgylch arfordir Ceredigion – dyw’r cyfan ddim fel hyn meddai, fe fydd y gwyliwr yn gadael gyda cynnwys ei stumog yn ei fol.
Roedd yn creu ffilm am Cantre’r Gwaelod, a sut y mae’n alegori ar gyfer heriau newid hinsawdd y dyfodol. Penderfynodd fapio ei daith o amgylch yr arfordir ar ffilm. Roedd y weithred o gerdded yr arfordir yn berformiad. Gwisgodd gamera pen yr holl ffordd. Creodd ffilm o un o’i deithiau i fyny’r Wyddfa a cyflwyno papur ar gamerau Go Pro o flaen llaw er mwyn dod yn gyfarwydd â’r dechnoleg.
10.55am: Yn anffodus dyw Greg Bevan ddim yn 100% felly y siaradwr nesaf fydd Ian Wilbin o Brifysgol De Cymru, a fydd yn trafod y ffilm a greodd ar y cyd â Anthea Kennedy, sef ‘The View From Our House’.
Dyma ragor o wybodaeth am y ffilm: http://www.view-from-our-house.info/
Mae’r ffilm yn seiliedig ar atgofion Erika, a glywodd sgrechian o garcharau yr SA ym Merlin oedd gerllaw ei chartref.
Wrth greu y ffilm roedden nhw’n casglu darluniau ac atgofion a ddaeth yn rhan bwysig o’r cyfanwaith. Mae’r ffilm yn gyfanwaith o ‘shots’ yn unig. Maent yn cynnwys casgliad o ddelweddau o feddi pobl anhysbys a fu farw ym mlynyddoedd olaf yr Ail Ryfel Byd. Mae’n cymharu rhain gyda delweddau Bernd & Hilla o dai trawstiau pren, ac adeiladau diwydiannol, bob un yn debyg ond ychydig yn wahanol. Mae ffurf y cerrig beddi yn galw i gof bynceri y Natsiaid eu hunain.
Mae pob delwedd yn cael ei golli i’r nesaf, gan atal y gwyliwr rhag croesgyfeirio rhyngddynt. Does dim gwahaniaeth hawdd i’w ddadansoddi rhwng y golygfeydd, sy’n gorfodi y gwyliwr i ystyried yn ddyfnach beth yw eu harwyddocad.
Mae hefyd yn cynnwys rhai o ddelweddau Erika ei hun, a ddaeth a’i presenoldeb i mewn i’r ffilm.
9.40am: Mae Joram ten Brink yn cynrychioli gwerthoedd craidd Cyfrwng, meddai Geraint Wyn Ellis o Brifysgol Bangor. Mae The Act of Killing wedi ennill 43 gwobr, gan gynnwys gwobr Bafta am y ffilm ddogfen orau.
Mae modd darganfod rhagor am y ffilm fan hyn.
Am y tro cyntaf heddiw bydd Joram ten Brink yn trafod y cais gwreiddiol a wnaethpwyd am arian gan yr HMRC er mwyn creu y ffilm.
Roedd y bobl a oedd yn gyfrifol am y lladdfa yn Indonesia yn 60au yn dweud bod sinema Hollywood wedi dylanwadu arnynt.Roedd eu gelynion, y comiwnyddion, yn boicotio y ffilmiau Hollywood.
Mae’n dangos darn o’r ffilm ddogfen ble mae’r llofruddion yn paratoi i ail-greu y gyflafan fel rhan o’u ffilm eu hunain o’r digwyddiadau. “Lladdwch y comiwnyddion! Torrwch nhw’n ddarnau!” medden nhw. Mae cyn-arweinydd y militia, sydd belach yn weinidog yn y llywodraeth, yn ymyrryd gan boeni eu bod nhw’n rhoi’r argraff eu bod nhw’n farbaraidd, ac yn dweud y dylen nhw ymddwyn mewn modd mwy gwaraidd ar y camera.
Mae Joram ten Brink yn dweud bod ganddo ddiddordeb mewn gweld sut mae trosiadau ffilmiau yn cael eu defnyddio gan y bobol sy’n cymryd rhan mewn hil-laddiad. Roedden nhw’n gofyn iddynt ail-greu y lladdfeydd ar gyfer y camerau mewn lleoliadau hanesyddol, mewn genre o’u dewis nhw, gan ddewis y dillad a’r setiau a chyfarwyddo’r actorion. Yna roedd yr rheini oedd yn gyfrifol am yr hil-laddiad yn gwylio fersiwn cynnar y ffilmiau ac yn adlewyrchu arnynt, gan drafod eu hofnau a’u gobeithion.
Mae’n dangos darn o’r ffilm lle mae’r parafilwyr yn ail-greu lladd comiwnydd ar gyfer y ffilm. Mae’r comiwnydd wedi ei actio gan ddyn y cafodd ei llys-dad ei ladd am fod yn gomiwnydd. Mae’r parafilwyr yn sylweddoli mai sgil effaith y ffilm fydd eu dangos nhw mewn golau drwg. ‘Fe fydd yr holl stori yn cael ei wrth-droi 180 gradd’.
Y gwahaniaeth rhwng Indonesia a bob gwlad arall lle roedd hil-laddiad, yw nad oes unrhyw gyfiawnder wedi dod i’r rheini gafodd eu lladd, meddai Joram ten Brink wrth ateb cwestiynau. Mae’r lladdwyr yn rhydd i frolio beth wnaethon nhw. Maen nhw’n parhau i ofni bygythiad Comiwnyddion, 50 mlynedd yn ddiweddarach.
Pan gyhoeddwyd y ffilm, dyna’r tro cyntaf i’r mater gael ei drafod yn gyhoeddus yn Indonesia, meddai. Roedd y pwnc yn hollol tabw cyn hynny. O ganlyniad roedd cyhoeddi’r ffilm yn llesol i deuluoedd y goroeswyr. Roedden nhw’n teimlo bod modd iddyn nhw drafod y pwnc yn agored am y tro cyntaf.
Roedd yn anodd tawelu meddyliau yr HRMC a’i brifysgol ei hun bod yr ymchwil yn foesegol.
Ni chafodd y lofruddwyr eu talu – roedden nhw wedi neidio ar y cyfle i fod yn ‘sêr ffilm’. Roedden nhw wedi ail-greu golygfeydd o ffilmiau Hollywood wrth ladd eu dioddefwyr.
9.30am: Croeso nôl i’r blog byw ar ail ddiwrnod cynhadledd Cyfrwng. Y siaradwr gwadd cyntaf y bore ma yw Jorem ten Brink o Brifysgol Westminister, a fydd yn trafod ei ffilm ddogfen The Act of Killing.
Mae modd gweld rhaglen y dydd yn ei gyflawnder fan hyn: http://www.cyfrwng2014.com/wp-content/uploads/2014/06/rhaglen-derfynnol-final-programme.pdf
4.33pm: Dyna’r cwbl gan y siaradwyr am y diwrnod. Ymunwch â ni eto yfory am 9.30am pan fydd Jorem ten Brink yn trafod The Act of Killing.
3.30pm: Mae’r ail brif siaradwr, Mike Pearson, cymrawd ymchwil Leverhulme Prifysgol Aberystwyth yn trafod ‘Cynefin, chorography and Coriolan/us’.
Rydyn ni’n tueddu i weld theori ac ymarfer fel dau beth ar wahan, sy’n gwrthwynebu ei gilydd. Mewn gwirionedd mae’r ddau yn bwydo ac yn atgyfnerthu ei gilydd, meddai.
Mae’n archeolegydd ond wedi treulio llawer o’i amser gyda daeryddwyr. Mae’n edrych ar berfformiad drwy ‘sbectold daearyddol’.
Ydi ‘cynefin’ yn air nad oes modd ei gyfieithu? Dyw ‘enviroment’ neu ‘habitat’ ddim yn gwneud y tro. Mae’n ddarn o dir lle mae cymuned wedi byw ac yn gweithio, ac mae’r ddaearyddiaeth yn gefndir i hynny. Mae’n gosod y dynol ynghanol ei amgylchedd. Yn ôl Waldo Williams, roedd cynefin bob bardd yn bwysig iddo. Mae’r tirwedd yn rhan anatod o enedigaeth, marwolaeth, a bywyd. Mae’r tirwedd yn llunio y bobl, a pobl yn llunio’r tirwedd. Mae’r gair ‘cynefin’ yn cofleidio y cysyniadau rhain.
Wrth ymateb i gwestiwn ‘lle ydym ni?’ gan ddieithryn rydyn ni’n tueddi i osod lleoliad cyfarwydd o fewn ei gyd-destun hanesyddol, yn hytrach na dim ond nodi ei safle ar fap. Rydyn ni’n nodi nodweddion a fyddai yn anweledig i bobl na fyddai yn gyfarwydd gyda’r lleoliadau rhain. Wrth arwain dieithriaid o amgylch bro ei febyd, roedd ei iaith yn newid, meddai Mike Pearson, a geiriau tafodieithol yn ailymddangos. Roedd ei deulu yn ychwanegu eu hatgofion eu hunain at ei atgofion ef, ac roedd y perfformiad yn troi’n ddeialog gyda’i gynulleidfa.
Mae prosiect Carrlands yn caniatau i bobl lawlrlwytho ffeil MP3 a fydd yn cynnig arweiniad i’r tirwedd, gan awgrymu eu bod nhw’n ystyried hyn a’r llall, ond yn gadael iddynt grwydro yn ddi-gyfeiriad.
Mae Mike Pearson yn trafod perfformiad National Theatre Wales o Coriolanus ym mhentref hyfforddi milwrol FIBUA yng nghanolbarth Cymru. Mae’r pentref ei hun, sy’n gasgliad o adeiladau gwag (un wedi ei ddwyrannu), yn lwyfan sy’n disgwyl am berfformiad, milwrol ac fel arall. Mae’r perfformwyr yn gyfarwydd gyda’r tirwedd, a’r tirwedd yn gadael ei ôl arnyn nhw. Mae’r cymysgedd o actorion, props, a thirwedd yn y perfformiadau yma yn cynrychioli ryw fath o ‘gynefin’.
Mae Mike Pearson yn galw arnom i ‘gwglo’ y gair ‘cynefin’ sy’n galw i fyny y ‘fframwaith cynefin’, sydd yn arswydus, meddai. Mae’n dangos bod Donald Rumsfeld wedi bod yn ‘cynefin’. ‘Known knows, unknown knows’ yw’r fframwaith cynefin yn ei feddwl, meddai. Efallai ei fod wedi mynychu seminar ar y pwnc, awgryma.
3.20pm: Cofiwch bod modd dilyn y gynhadledd ar Twitter yn ogystal: https://twitter.com/cyfrwng
3pm: Mae’r tri a gyflwynodd ar eu gwaith bellach yn ateb cwestiynau.
Wrth ateb un cwestiwn am astudiaethau ar Kubrick dywed Nathan ei fod yn bwysig ystyried y cyd-destun y mae gwneuthurwyr ffilm yn gweithio ynddo wrth astudio eu gwaith. Mae gormod o astudiaethau heb eu hangori mewn unrhyw beth go iawn.
Dywed Margaret Ames bod eu perfformwyr yn tueddu i addasu’n fyrfyfyr wrth berfformio, am nad yw actorion sydd ag anghenion dysgu bob tro yn gallu cadw at sgript.
Mae Deirdre O’Neill yn ateb cwestiwn ar sut oedd yr awdurdodau yn ymateb i’r ffilm am y carchar. Roedden nhw’n tueddu i greu problemau, meddai. Roedd ‘hw-ha’ mawr oherwydd bod un o’r carcharorion yn datgelu ei rif carcharor yn y ffilm. Dim ond yn ddiweddar y maen nhw wedi cael caniatad i ddychwelyd i’r carchar. Roedd carchar arall wedi eu gwahardd rhag dangos ffilm, am ei fod yn cynnwys ‘rap’ oedd yn adlewyrchu’n wael am y carchar. Maen nhw’n tueddu i ganolbwyntio ar y cyfleodd dysgu sgiliau i’r carcharorion wrth wneud cais am yr hawl i ffilmio.
2.40pm: Mae Margaret Ames o Brifysgol Aberystwyth yn trafod ‘Cyrff Ystwyth: Speaking the Unspeakable’.
Mae Cyrff Ystwyth yn gwmni dawns, a mae gan rai ohonynt anghenion dysgu. Mae Margaret Ames yn dangos clip sydd wedi ei greu i fod yn hygyrch i bobl sydd ag anableddau. The performance is autobiographical.
Ni allai’r awdur, Carwyn, sydd ag anghenion dysgu grybwyll beth oedd eisiau ei gynnwys yn y perfformiad, dim ond dweud ‘uh’ ac ‘um’. Mae Margaret Ames yn dadlau bod y geiriau ‘uh’ ac ‘um’ yn eiriau Saesneg. Mae pawb yn defnyddio geiriau llanw o’r fath, meddai. Roedd Carwyn eisiau dangos y person yr ydoedd yn y perfformiad, ond pan ddaeth at drafod ei hanes roedd yn ceisio cuddio ei drawma drwy ddweud ‘um’ ac ‘uh’. Roedd iaith yn afraid wrth geisio esbonio 20 mlynedd yn yr ysbyty. Roedd dweud ‘um’ ac ‘uh’ yn ‘weithred llafar’ oedd yn dangos diffyg gallu i roi ei brofiad mewn geiriau. Roedd yn mynegi mewn geiriau ei drawma. Cymerodd Margaret Ames benderfyniad i ddehongli ei eiriau fel ymgais i ddweud rhywbeth nad oedd modd ei ddweud – ‘Speaking the Unspeakable’.
2.20pm: Mae Deirdre O’Neill o Inside Film yn trafod ‘Film as a Radical Pedagogic Tool’.
Mae Inside Film wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr er mwyn herio neges y cyfryngau sy’n cam-ddehongli bywydau pobl dosbarth gweithiol mewn dull negyddol.
Nid yn unig y maen nhw’n dod o hyd i’w lleisiau eu hunain, ond yn gwrando ar leisiau pobl eraill. Dim ond drwy weithredu yn y byd y mae modd ei newid, yn ôl damcaiaethau Marcsaidd. Mae damcaniaethu heb ymarfer yn ddi-bwynt. Dangoswyd i’r myfyrwyr bod modd sianelu eu rhwystredigaeth a’u dicter drwy gyfrwng creu ffilm. Mae’r ffilmiau yn ymwneud â themau dosbarth, cyfalafiaeth, a gwleidyddiaeth.
Mae’n dangos rhan o’r ffilm fer ‘Who am I?’ sydd wedi ei greu gan bobl oedd erioed wedi creu ffilm o’r blaen. Mae’n cynnig ffordd newydd o ystyried yr rheini sydd o fewn carchardai y Deyrnas Unedig, meddai.
2pm: Yn awr fe fydd Nathan Abrams o Adran Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor yn trafod ‘The Myth of Tyranny: Stanley Kubrick’s working Practices’.
Mae’n dysgu Cymraeg, ar yn edrych ymlaen at gyflwyno papur yn yr iaith mewn ychydig flynyddoedd.
Mae Stanley Kubrick yn cystadlu â Hitchcock o ran faint sy’n cael ei ysgrifennu amdano, meddai. Yn sgil agor ei archif mae llawer mwy o gyfle i weld beth y mae dulliau gweithio Stanley Kubrick yn ei ddweud wrthom ni am ei ffilmiau – a oedd yn gymaint o unben ac y mae’r straeon yn ei awgrymu? Mae Nathan Abrams wedi treulio dwy flynedd yn pori drwy’r archif. Mae’r archif fel y monolith o 2001, meddai – mae’r academwyr yn tyrru o’i amgylch yn chwilio am atebion! Ond fel y monolith mae’r cyfrinacahau wedi eu cuddio i raddau helaeth.
Yn groes i’r disgwyl, me’r archif yn dangos ei fod yn agored iawn i syniadau pobl eraill. Doedd dim sgript terfynol nes i’r ffilm gael ei saethu. Mae sgriptiau ei ffilmiau yn dangos cyd-weithio, drafftio ac ail-ddrafftio. Dim ond dwy ffilm ysgrifennodd ar ei ben ei hun. Roedd yn hapus i bethau newid ac i bobl ddylanwadu arno wrth i’r ffilm fynd ymlaen, e.e. Peter Sellers ar y ffilm Dr Strangelove, a wnaeth addasu ei berfformiad yn aml wrth i’r ffilm gael ei saethu. Roedd yn parhau i newid ac addasu’r ffilm ar ôl iddo gael ei ddangos yn y sinema.
Yn aml iawn mae academwyr yn dadlau bod pethau yn ei ffilmiau yn arwyddocaol sydd yno o ganlyniadau i’r cyfyngiadau oedd ar y cyfarwyddwr wrth saethu’r ffilm. E.e. roedd arwydd yn dweud ‘Bondon’ mewn ffilm, yr oedd Nathan yn ceisio ei ddehongli. Y gwir oedd bod Kubrick wedi ceisio addasu arwydd oedd yn dweud ‘London’ am na fyddai yn gweddu i’r lleoliad.
Daeth Nathan o hyd i gopi Kubrick o Film Technique gan Pudovkin, sy’n llawn nodiadau manwl gan y cyfarwyddwr sy’n datgelu llawer am ei ddull gweithio. Ond un o’r prif broblemau wrth edrych ar waith Kubrick yw ceisio deall ei lawysgrifen!
Y pwynt canolig yw, hyd yn oed yn achos cyfarwyddwr enwog yr ydyn ni’n tueddu i fwddwl oedd yn rheoli bod agwedd o’r ffilm, mewn gwirionedd roedd ei ffilmiau yn gywaith rhwng nifer o wahanol bobol.
1pm: Bydd cinio nawr cyn sesiwn 2pm pan fydd siaradwyr yn tarfod ‘Ymwneud ac Ymarfer’.
12.12pm: Bydd y prif siaradwr gwadd cyntaf, Huw Jones o S4C, yn siarad nesaf, ar bwnc ‘Heriau a strwythurau’.
Mae’n ein harwain drwy rai o ystadegau mwyaf arwyddocal y Cyfrifiad, gan nodi cynnydd o 17% yn yr rheini sy’n derbyn eu haddysg yn Gymraeg dros 10 mlynedd. O blith y siaradwyr Cymraeg, mae’r nifer mwyaf yn 10-19 oed. Ond mae ‘health warning’ fan hyn, sef mai’r pen teulu sy’n nodi pwy sy’n gallu siarad Cymraeg – does dim arholiad.
Mae ystadegau eraill yn dangos bod mwy o ruglder yn yr iaith ymysg yr oed hyn na’r ifanc. Dydi o ddim yn ddarlun cwbl ddu, ond mae yn un sy’n gosod heriau ar gyfer gwasanaeth cyfryngol cyhoeddus Cymraeg. Mae hefyd angen darparu ar gyfer pobl y tu allan i Gymru, Cymry di-Gymraeg, a pobl ‘goleuedig’ sydd heb unrhyw gysylltiad a Chymru ond sy’n dod ar draws y gwasanaeth.
Mae S4C ar nifer mawr o lwyfannau sy’n golygu gwaith ac arian ychwanegol – YouTube, Facebook, Clic, iPads, SmartTVs, ayyb. Mae’n dangos cymhlethdod y gwasanaeth y maen nhw bellach yn ei ddarparu. Serch hynny, dim ond 2% o’r holl wylio teledu sy’n digwydd ar-lein.
Rhaid ateb y cwestiwn – “Beth mae pobl ei eisiau gan y cyfryngau Cymraeg?” Yr ateb yw bod pobl gwahanol eisiau pethau gwahanol. Fyddai rheini plant bach eisiau Cyw ymlaen drwy’r dydd nes amser gwely. Mae rhieni plant hyn eisiau rhagor o fuddsoddiad mewn rhaglenni i blant sy’n rhy hen i wylio Cyw. Mae pobl ifanc eisiau gallu cael mynediad at y gwasanaeth ar bob dyfais gwahanol.
Mae gan pobl hyn sydd wedi eu magu drwy gyfrwng y Gymraeg yr angen dynol o gwmni drwy gyfrwng eu mamiaith. Mae yna elfen o gyflawni dyletswydd cymdeithasol ymysg y mwyaf ifanc a’r mwyaf hen.
Y cwestiwn yw – a yw hyn yn gynialadwy yn y tymor hir? Pe bai yna ostyngiad arall mewn arian gan y llywodraeth, byddai rhaid gwneud penderfyniadau anodd, gan gynnwys colli gwasanaethau sydd yn cael eu gweld fel rhai hanfodol gan eu cynulleidfaoedd ar hyn o bryd. Un ateb hawdd yw torri nol ar oriau darlledu, o 5pm tan 9.30pm, ond does dim gwasanaeth fel Sianel 4 erbyn hyn i gymryd ei le. Mae’r oriau y tu hwnt i’r rhai brig yn darparu gwasanaeth gwasanaeth gwerthfawr i nifer i bobl, e.e. Cyw ac uchafbwyntiau estynedig o’r Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod.
Mae’n anodd dod i benderfyniad ar sail ffigyrau gwylio, oherwydd bod sawl modd gwahanol o fesur nifer gwylwyr. Dim ond sampl ydyn nhw – mae un person yn cynrychioli 4,500 o bobl. Mae hynny’n golygu nad ydyn nhw’n ddibynadwy er mwyn mesur faint sy’n gwylio rhaglenni unigol. Mae tystiolaeth ymchwil marchnad yn awgrymu pethau gwahanol i’r ffigyrau gwylio. Faint o bobl sy’n gwylio sy’n siaradwyr Cymraeg? Nid yw’r ffigyrau yn gywir yn yr un modd a gem bel droed. Mae angen ystyried y cyfan cyn dod i farn teg a cynhwysfawr ynglyn a chyrhaeddiad y sianel.
Cwestiwn arall yw faint sy’n gwerthfawrogi. Yn hyn o beth mae tystiolaeth clustiau a llygaid yr Awdurdod yr un mor ddibynadwy a’r ffigyrau gwylio. Mae angen cadw llygaid ar wylwyr go iawn, nid yn unig pobl sy’n trafod yn y wasg neu ar rwydweithiau cymdeithasol. Mae’n bwysig clywed llais yr rheini sydd ddim yn gwylio, yn hytrach na dibynnu ar eraill i siarad ar eu rhan nhw.
Serch hynny mae’n her deg disgwyl i wasanaeth sy’n derbyn arian cyhoeddus geisio cyrraedd cymaint o bobl a phosib. Mae tua 8% o siaradwyr Cymraeg yn gwylio yn ystod yr oriau brig. Y rhaglen sy’n denu cynulleidfa yn fwyaf rheolaidd yw Pobl y Cwm, ac mae Rownd a Rownd a Cefn Gwlad hefyd yn boblogaidd. Os ydyn nhw’n mynd drwy gyfnodau gwan, mae nifer y gwylwyr yn dioddef.
Cafodd y Gwyll effaith mawr ar-lein. Doedd y gwylio yma ddim yn cael ei gyfrif ymysg y nifer gwylwyr traddodiadaol. Roedd tuedd sylweddol tuag at wylwyr 35 oed yn hytrach na’r 60+ arferol.
Mae yna awgrym y dylai cyfrifoldeb am S4C gael ei ddatganoli i wleidyddion Cymru, gan gomisiwn Silk. Fe allai pethau newid yn sgil penderfyniad yr Alban am annibyniaeth. Mater i’r gwleidyddion yw hynny – y peth pwysig yw nad oes gostyngiad yn yr arian sydd ar gael.
Mae yna bryderon bod anghyfartaledd yn faint o arian sy’n cael ei wario ar yr iaith Gymraeg ac ar ddeunydd Saesneg Cymreig. Mae’n cytuno – mae’n gwanhau gallu y Cymry i ddatblygu diwylliant aml-ochrog yn yr iaith y mae mwyafrif y boblogaeth yn cael ei siarad. Ond ni ddylai hynny olygu llai o wariant ar ddalledu yn y Gymraeg. Mae angen i Lywodraeth San Steffan barhau i anrhydeddu’r ymrwymiad a wnaed i’r Cymry ddegawdau yn ôl. Pe bai model newydd yn cael ei gynnig yn y dyfodol, byddai angen holi beth yw’r sicrwydd ariannol sy’n cael ei gynnig i’r gwasanaeth Cymraeg, ac a oes sicrwydd o annibyniaeth olygyddol? Yn groes i bob ofn mae’r trefniant presennol gyda’r BBC yn gweithio, oherwydd ei fod yn gytundeb hyd-braich rhwng dau gorff annibynol.
Ym mis Mawrth 2017 bydd cytundeb ariannol S4C yn dod i ben. Mae etholiad cyn hynny, yn 2015. Nid yw’r llywodreath am fynd i’r afael a’r cwestiwn cyn hynny. Mae S4C am sicrhau bod y drafodaeth yn un trwyadl, yn wahanol i 2010. Y trwydded deledu sy’n debygol o fod yn brif ffynonell ariannol S4C, ac felly mae’r drafodaeth am y drwydded yn debygol o fod yn arwyddocaol iawn i S4C.
Mae Dylan Huws o Cwmni Da yn holi pa mor anfodlon yw’r llywodreath i drafod y dyfodol. Ateb Huw Jones yw nad yw’r llywodreath am drafod y siarter nes ar ol yr etholiad, rhag iddo droi yn bwnc gwleidyddol. Fe fyddai yn gwahodd defnyddio’r BBC fel pel droed gwleidyddol. Mae rhywun yn gallu parchu hynny. Mae am sicrhau bod y llywodreath yn deall beth sydd gan S4C i’w ddweud. Mae angen ystyried S4C yn ei rinwedd ei hun, nid fel rhan o siarter y BBC yn unig. Beth nad ydyn nhw ei eisiau yw bod etholiad, trafod siarted y BBC, a wedyn bod gofynion S4C yn cael eu trafod ar y diwedd fel eilbeth i hynny.
12.05pm: Mae Elain Price o Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, yn daweud gair o deyrnged i gadeirydd cyntaf Cyfrwng, John Hefin.
“Rhoddodd yn hael o’i amser i’n harwain fel pwyllgor am ddegawd. Roedd yn ymgorfforiad o’r hyn y mae Cyfrwng yn anelu ato. Mae gwerthfawrogiad aelodau Cyfrwng ato yn ddwfn.”
11.21am: Yr ail siaradwr yw Jan Simons o Ganolfan Diwydiannau Creadigol (CIRCA) Prifysgol Amsterdam. Mae’n dweud ei fod wedi deall ambell i air Cymraeg o gyflwyniad Dyfrig – ‘teras’ a ‘coffi’.
Mae’n trafod ‘Bringing Humanities Research to Practice: CIRCA’s embedded research in the creative industries’.
Mae’r diwydiannau creadigol yn hollbwysig mewn economi sydd yn ddibynnol ar wasanaethau yn hytrach an diwydiant, meddai.
Erbyn hyn mae disgwyl i’r diwydiannau creadigol awgrymu modelau busnes newydd, a ffyrdd newydd o werthu cynnyrch, a ffyrdd o yrru arloesi, gan hybu twf economaidd. Yr her iddyn nhw yw pontio damcaniaethau gyda’r ochr ymarferol. Does gan y dyniaethau ddim llawer i’w ddweud am fusnes – heblaw pan mae rhywun yn ceisio darganfod a yw ei ddarn o gelf werth miliynau ai peidio.
Mae newidiadau technolegol fel e-lyfrau a ’data mawr’ yn newid y pynciau sy’n cael eu trafod y dyniaethau. Mae angen dulliau ymchwil cwbl newydd i ymdopi â hyn. Mae angen hybu cyd-weithio o fewn y disgyblaethau gwahanol, a hybu cyd-weithio â’r diwydiant. Mae yna nifer o sefydliadau sy’n ymchwilio i’r cwestiynau hyn sydd y tu allan i fyd academia, erbyn hyn. Mae angen dulliau ymchwil newydd fel mewnblannu ymchwilwyr o fewn cwmnioedd er mwyn cyfrannu at ddatblygiad cynnyrch newydd ac adrodd yn ôl arno.
Mae CIRCA wedi bod yn dewis prosiectau i’w hastudio sydd yn arloesol, amrywiol ac yn heriol yn academaidd, gan gynnwys cwmni sy’n creu appiau -‘Appsterdam‘ – a phensaerniaeth – ‘Urban Resort‘. Maent yn gyrru myfyriwr ôl-radd yno am 6 i 12 mis i’w hastudio o safbwynt y dyniaethau.
Dywed bod gan y dyniaethau fwy i’w gynnig i’r diwydiannau creadigol nag oedden nhw wedi ei feddwl. Roedd eu harbenigedd yn ddefnyddiol iawn i’w partneriaid yn y dwydiant. Mae’r dyniaeathau yn wael iawn am eu gwerthu eu hunain, o bosib am nad yw academwyr am gael eu gweld yn ‘gwerthu allan’ i’r ’diafol’. Nid yw’r diwydiannau creadigol bob tro yn gwybod beth nad ydyn nhw yn ei wybod – mae angen i academwyr eu helpu nhw i ddeall beth maen nhw angen ei wybod er mwyn gwella eu cynnyrch. Dydyn nhw chwaith ddim bob tro yn gwerthfawrogi y gwybodaeth sydd ganddyn nhw. Mae’r ymchwil mwyaf llwyddiannus yn tueddu i fod yn draws-ddisgyblaethol, meddai.
10.50am: Y siaradwr cyntaf fydd Hugh Mackay o’r Brifysgol Agored. Mae’n aelod o bwyllgor myfyrwyr Cyfrwng.
Mae’n trafod ‘The long duree of technology and democracy: the transformation of the media landscape in Wales’.
Mae gwaith ar y cyfryngau Prydeinig yn rywbeth hynod o ddiweddar, meddai. Pan ddechreuodd ei yrfa roedd modd cynnwys enw pob llyfr ar y pwnc ar un ochr A4. Mae wedi cynyddu yn sylweddol ers hynny. Rhan o waith Cyfrwng yw creu llyfryddiaeth o’r holl waith sydd bellach ar gael.
Mae’n trafod llyfr Raymond Williams: Television: Technology and Cultural Form. Dechreuodd y ffôn yn gyfrwng torfol, tra bod radio wedi dechrau yn dechnoleg 1-i-1, cyn newid drosodd. Mae’n cymryd amser hir i dechnolegau cyfathrebu sefydlogi – gall y rhyngrwyd newid eto, ar sail yr angen cymdeithasol.
Mae’n dyfynnu John Davies: “Contemporary Wales could be defined as an artefact produced by broadcasting.” Cyn newyddion Cymreig y BBC, doedd gogledd a de Cymru heb eu cyfuno at ei gilydd yn un wlad. Mae hynny’n ddadleuol, meddai.
Mae Aelodau Cynulliad bellach yn crefu am system darlledu mwy canolog yng Nghymru. Mae yna lot llai o gyfryngau Cymreig nag yn yr Alban, ac mae’r cyfryngau torfol sydd yma – yn enwedig y papurau newydd – yn gwanhau. Mae cylchrediad y Western Mail a’r Daily Post wedi syrthio bron i ddau draean o fewn 20 mlynedd. Mae’r cynnydd yn nifer darllenwyr eu gwefannau yn gwneud yn iawn am hynny, felly nid yw’r darlun mor besimistaidd ac y mae rhai yn ei awgrymu. Mae nifer grandawyr radio yng Nghymru wedi aros yn hynod o sefydlog, er gwaetha’r dechnoleg newydd.
Mae nifer gwylio y prif sianeli, BBC, ITV, S4C ayyb, sy’n rhoi i’r wlad profiad o wylio’r teledu ‘ar y cyd’ yn syrthio. Mae rhagor yn gwylio’r cannoedd o sianeli eraill. O ganlyniad mae’r teledu yn llai pwysig wrth lunio’r sffer gyhoedus yng Nghymru.
Mae gwefan BBC Cymru Wales yn cael 3.7 miliwn o ymwelwyr unigryw bob wythnos. Dyw lot o ddefnydd o’r rhyngrwyd – wrth siopa neu edrych ar gyfrifol banc – ddim yn ymwneud â pynciau y mae academwyr ar y cyfryngau yn draddodiadol wedi edrych arnynt. Mae datblygiad gwefannau cymdeithasol yn ‘bumed ystad’ sy’n caniatau i bobl gysylltu â’i gilydd heb i’r wybodaeth gael ei hidlo. Mae hyn yn golygu bod rhagor o gam-wybodaeth hefyd yn cylchredeg.
Mae’n gofyn a oes rhagor o amrywiaeth yn y lleisiau a’r cynnwys sydd ar gael o ganlyniad i’r rhyngrwyd? Mae defnyddio’r we yn beth gweithredol iawn, yn hytrach na goddefol. Mae angen i academwyr ddod o hyd i ffyrdd o gategoreiddio y modd y mae pobl yn defnyddio’r rhyngrwyd. Y tueddiad yw i ystyried pobl fel cwsmeriaid yn hytrach an dinasyddion. Mae’n bwysig yng Nghymru lle mae llywodraeth ifanc i barhau i ystyried beth mae dinasyddiaeth yn ei olygu yn sgil datblygiadau’r cyfryngau heddiw. Sut all y cyfryngau hybu pobl i gymryd diddordeb a chymryd rhan mewn system ddemocrataidd ifanc?
10.45am: Mae Elen ap Robert, cyfarwyddwr creadigol Pontio, yn trafod y datblygiad. Fe fydd yr adeilad yn agor ar 17 Medi. Fe fydd yn ganolfan i’r celfyddydau ac arloesi ym Mangor.
“Bydd yr adeilad yn pontio yn llythrennol rhwng y Brifysgol a chymunedau, rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, rhwng y diwydiant ac addysg uwch,” meddai, gan ddangos delwedd 3D o’r adeilad ar y sgrin y tu ôl iddi.
Bydd sinema, theatr, ac ystafelloedd darlithio yn rhan o’r adeilad. Mae’n ddatblygiad arwyddocaol i Gymru gyfan, meddai.
Fe wnaeth Osian Williams, myfyriwr yn adran Astudiaethau Creadigol a’r Brifysgyol, ennill BAFTA Cymru am ffilm a greuwyd wrth gydweithio â Pontio, meddai.
10.35am: Mae Dyfrig Jones, darlithydd yn y cyfryngau o adran Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor, yn croesawu pawb i’r gynhadledd, yn Gymraeg a Saesneg.
Mae’n ymddiheuro nad oes modd cynnal y gynhadledd allan yn yr haul!
Os oes gennych chi unrhyw sylwadau am y pynciau a drafodir heddiw ac yfory, mae modd eu cyhoeddi isod.
9.40am: Mae’n fore hyfryd yma ym Mangor ar gyfer y gynhadledd. Mae amell i lun o’r paratoadau i’w gweld ar y ffrwd Twitter: https://twitter.com/cyfrwng
7.50am: Croeso i flog byw Cynhadledd Cyfrwng 2014, sydd yn dychwelyd i Brifysgol Bangor wedi 10 mlynedd.
Am ragor o wybodaeth am y gynhadledd mae modd ymweld â’r wefan: http://www.cyfrwng2014.com/
Gallwch hefyd gael golwg ar y ffrwd Twitter: https://twitter.com/cyfrwng
Fe fydd y drafodaeth gyntaf yn dechrau am 10.30am.